Pan fydd mwy nag un atwrnai

Darllenwch y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld faint o atwrneiod a benodwyd.

Os oes mwy nag un atwrnai, dylech gadarnhau a oes rhaid i chi wneud penderfyniadau:

  • ar wahân neu gyda’ch gilydd (‘ar-y-cyd neu’n unigol’) sy’n golygu y gallwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu gydag atwrneiod eraill
  • gyda’ch gilydd (‘ar-y-cyd’) sy’n golygu bod rhaid i chi a’r holl atwrneiod eraill gytuno ar benderfyniad

Gall y rhoddwr eich cyfarwyddo i wneud rhai penderfyniadau ‘ar-y-cyd’ a rhai ‘ar-y-cyd ac yn unigol’.

Rhaid i atwrneiod a benodir ar y cyd i gyd gytuno, neu ni allent wneud y penderfyniad.

Atwrneiod ar y cyd

Os penodir chi ar y cyd ag atwrnai neu atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai, bydd yr atwrneiaeth barhaus yn dod i ben yn awtomatig.

Bydd angen i chi ganfod ffordd arall o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.