Sut i godi pryder
Ynglŷn ag atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut i godi pryder
Y ffordd gyflymaf i adael inni wybod am eich pryder yw llenwi’r ffurflen ar-lein. Llenwch y ffurflen gyda chymaint o wybodaeth â phosibl.
Rhowch y canlynol yn eich adroddiad:
- manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
- y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
- yr hyn rydych yn ei wybod am alluedd meddyliol yr unigolyn, gan gynnwys copi o unrhyw adroddiad galluedd meddyliol neu enwau pwy fyddai ag adroddiadau
- eich manylion cyswllt
Yna bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.
Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.
Ffyrdd eraill i adrodd am bryderon i’r OPG
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen PDF isod i greu eich adroddiad. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom, ysgrifennu atom neu ein ffonio.
Anfonwch neges e-bost at Uned Ddiogelu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
- Ffôn: 0300 456 0300
- Ffonio o tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
- Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 0300 123 1300
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm
Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i opgcasework@publicguardian.gov.uk Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ffyrdd eraill o godi pryder
Gallwch hefyd gysylltu â’r canlynol:
- Jobcentre Plus for concerns about benefits
- your local adult social services for concerns about care or safeguarding
- the Care Quality Commission or the Care Inspectorate Wales if you’re concerned about someone who’s living in a care home
Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu eich heddlu lleol os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd.
Updates to this page
-
The digital form for raising a concern has been added to the page.
-
URL updated
-
A web form is now available as a more accessible alternative to the PDF version of OPG130.
-
Page now links to gov.uk main page Welsh versions of OPG130 added
-
Added translation