Gweld atwrneiaeth arhosol

Gall cwmnïau a sefydliadau ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i wirio pwy yw’r atwrneiod ar atwrneiaeth arhosol (LPA) ddilys.

Gallwch ond defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer LPAs a gofrestrwyd ar neu cyn 1 Ionawr 2016 yng Nghymru neu Loegr.

Os ydych yn atwrnai neu’n rhoddwr ar LPA, gallwch weld crynodeb o’ch LPA.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael crynodeb un tudalen o’r LPA sy’n cynnwys:

  • a yw dal yn ddilys ac wedi’i chofrestru
  • enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r rhoddwr
  • enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni’r atwrneiod
  • sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gan yr atwrneiod
  • cyfyngiadau ac amodau’r rhoddwr (a elwir weithiau’n ‘cyfarwyddiadau a dewisiadau’)

Gallwch hefyd lawrlwytho copi o’r crynodeb LPA fel PDF.

Cyn i chi ddechrau

I weld crynodeb o LPA, bydd angen i’r atwrnai neu’r rhoddwr gynhyrchu cod mynediad ar-lein ar eich cyfer.

Mae gan god mynediad 13 nod ac mae’n dechrau gyda V. Byddwch angen cod mynediad gwahanol i weld bob LPA iechyd a lles neu eiddo a materion ariannol.

Os nad oes gan yr atwrnai god mynediad

Os cafodd yr LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016, ni all yr atwrnai neu’r rhoddwr gynhyrchu cod mynediad. Bydd angen iddynt ddangos yr LPA bapur cofrestredig i chi neu gopi ardystiedig ohoni.

Gweld yr LPA ar-lein

  1. Rhowch gyfenw’r rhoddwr a’r cod mynediad.
  2. Gwiriwch bod enw’r rhoddwr a’r math o LPA yn gywir.
  3. Rhowch enw’ch cwmni neu sefydliad.

Bydd yna gofnod o enw eich cwmni neu sefydliad a’r dyddiad fel bod y rhoddwr ac unrhyw atwrneiod eraill yn gallu gweld pryd a sut mae’r LPA yn cael ei defnyddio.

Dechrau nawr