Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
  • os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
  • os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
  • os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai

Gall y rhoddwr hefyd roi gwybod am newidiadau i atwrneiaeth arhosol (LPA) os oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.

Os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad

Rhaid i chi roi gwybod i OPG os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.

Rhaid i chi ddweud wrth OPG os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.

Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen LPA ei hun, oherwydd gallai hynny achosi iddi fod yn annilys.

Os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i OPG ac anfon atynt yr LPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.

Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r LPA gyfredol

Bydd OPG yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw ac naill ai:

  • roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd – gelwir hyn yn gweithredu ‘ar y cyd’
  • roedd dim ond un atwrnai

Bydd LPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os hoffech i OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.

Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’), bydd OPG yn diweddaru’r LPA yn lle ei dinistrio. Dylech gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.

Os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn

Rhaid i chi roi gwybod i OPG pan fyddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn. Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol iddynt:

  • yr LPA wreiddiol
  • pob copi ardystiedig o’r LPA
  • cyfeiriad dychwelyd i OPG anfon eich dogfennau’n ôl atoch

Byddwch yn gallu dechrau helpu rhoddwr i wneud penderfyniadau cyn gynted ag y bydd yr atwrnai rydych chi’n cymryd ei le yn rhoi’r gorau i weithredu.

Edrychwch ar yr LPA i weld a oes angen i chi wneud penderfyniadau gydag atwrneiod eraill ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai.

Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Rhif ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Rhif ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch e-bost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus/Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:

  • eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
  • nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
  • enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
  • y cyfeirnod ar eich LPA