Defnyddio atwrneiaeth arhosol
Dechrau defnyddio atwrneiaeth arhosol
Rhaid i chi gofrestru’r atwrneiaeth arhosol (LPA) cyn i chi allu dechrau gweithredu fel atwrnai.
Os ydych chi’n atwrnai neu’n rhoddwr ar LPA, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:
-
weld crynodeb un tudalen o LPA
-
gadael i gwmnïau neu sefydliadau weld crynodeb un tudalen o LPA
-
gwirio pwy sydd wedi cael mynediad i LPA
-
gweld faint o bobl a enwir ar LPA sy’n defnyddio’r gwasanaeth
-
gofyn am allwedd actifadu os nad ydych wedi cael un
-
gofyn am allwedd actifadu newydd os ydych wedi colli’ch un chi neu os yw wedi dod i ben
Dim ond ar gyfer LPA a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi greu cyfrif y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Yna bydd angen i chi ychwanegu LPA i’ch cyfrif. Byddwch angen:
- cyfeirnod yr LPA
- eich allwedd actifadu
Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2020, bydd eich allwedd actifadu yn y llythyr a gawsoch i ddweud wrthych bod yr LPA wedi’i chofrestru.
Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ofyn am allwedd actifadu newydd neu am un arall. Byddwch angen cyfeirnod yr LPA.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein
Os cafodd yr LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer LPA a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2016. Yn hytrach, bydd angen i chi ddangos yr LPA bapur i bobl neu sefydliadau.