Beth fydd yn digwydd ar ôl ichi wneud cais

Bydd yr hyn fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais yn dibynnu ar p’un a wnaethoch gais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig, neu ar eich pen eich hun.

Os wnaethoch gais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig

Byddwn yn gwirio eich cais. Os yw’n gywir, anfonir y canlynol at y ddau ohonoch:

  • hysbysiad bod eich cais wedi cychwyn (wedi cael ei anfon allan)
  • copi o’ch cais wedi’i stampio gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF)
  • ‘cydnabyddiad cyflwyno’
  • rhif yr achos

Rhaid i chi aros tan 20 wythnos ar ôl i’ch cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys. Ar ôl y cyfnod hwn gallwch chi a’ch gŵr neu’ch gwraig barhau gyda’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol.

Os wnaethoch gais fel ceisydd unigol

Bydd eich cais yn cael ei wirio. Os yw’n gywir, anfonir y canlynol atoch:

  • hysbysiad bod eich cais wedi cychwyn (wedi cael ei anfon allan)
  • copi o’ch cais wedi’i stampio gan GLlTEF
  • rhif yr achos

Bydd y llys yn anfon y cais am ysgariad a chydnabyddiad cyflwyno at eich gŵr neu’ch gwraig.

Rhaid i’ch gŵr neu’ch gwraig ymateb i’r cydnabyddiad cyflwyno o fewn 14 diwrnod, gan ddweud p’un a yw yn:

  • cytuno â’r ysgariad
  • bwriadu gwrthwynebu’r ysgariad

Os na fydd eich gŵr neu’ch gwraig yn ymateb, bydd y llys yn dweud wrthych beth fydd angen i chi ei wneud. Ni fydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Os ydynt yn cytuno â’r ysgariad

Gallwch barhau gyda’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol (neu ddyfarniad nisi os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022). Bydd angen i chi aros tan 20 wythnos ar ôl eich cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys cyn y gallwch wneud cais.

Os ydynt yn gwrthwynebu’r ysgariad

Bydd rhaid i’ch gŵr neu’ch gwraig lenwi ‘ffurflen ymateb’ i ddweud pam eu bod yn anghytuno â’r ysgariad.

Rhaid bod gan eich gŵr neu’ch gwraig reswm cyfreithiol gwirioneddol i wrthwynebu’r ysgariad. Ni allant wrthwynebu’r ysgariad dim ond oherwydd nad ydynt eisiau ysgariad neu i achosi oedi gyda’r broses. Efallai y bydd rhaid ichi fynd i’r llys i drafod yr achos.

Os na fyddant yn cyflwyno ffurflen ymateb, gallwch barhau â’r ysgariad trwy wneud cais am orchymyn amodol (neu ddyfarniad nisi os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022).