Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi

Dogfennau yw gorchymyn amodol a dyfarniad nisi, sy’n dweud nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na allwch gael ysgariad.

Sut i wneud cais

Bydd sut byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Rhaid i chi aros tan 20 wythnos ar ôl eich cais am ysgariad gael ei gychwyn gan y llys cyn y gallwch wneud cais am orchymyn amodol.

Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am orchymyn amodol ar-lein.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol.

Gallwch wneud cais am orchymyn amodol a pharhau gyda’r ysgariad fel ceisydd unigol, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ysgaru ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ysgariad cyn 6 Ebrill 2022

Os wnaethoch gais am ysgariad ar-lein, gallwch wneud cais am ddyfarniad nisi ar-lein.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am ddyfarniad nisi.

Byddwch hefyd angen llenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a ddywedir yn eich cais am ysgariad yn wir. Mae 5 ffurflen datganiad - defnyddiwch yr un sy’n berthnasol i’r rheswm rydych wedi’i roi dros gael ysgariad.

Atodwch gopi o ymateb eich gŵr neu’ch gwraig i’r cais am ysgariad.

Ar ôl ichi wneud cais

Bydd y llys yn adolygu eich cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi. Gall hyn gymryd sawl wythnos. Os bydd y barnwr yn cytuno, bydd y llys yn anfon tystysgrif atoch chi ac at eich gŵr neu wraig.

Bydd y dystysgrif yn datgan y dyddiad a’r amser bydd eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi yn cael ei gymeradwyo. Byddwch dal yn briod ar ôl iddo gael ei gymeradwyo,

Bydd rhaid i chi aros o leiaf 43 diwrnod (6 wythnos ac 1 diwrnod) ar ôl iddo gael ei gymeradwyo cyn y gallwch wneud cais i wneud yr ysgariad yn derfynol a dod â’r briodas i ben.