Canllawiau

Cam-drin Domestig: sut i gael help

Dysgwch sut mae cael help os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.

Os ydych mewn perygl dybryd, galwch 999 a gofynwch am yr heddlu. Os na allwch siarad a’ch bod yn galw ar ffôn symudol gwasgwch 55 i drosglwyddo’ch galwad i’r heddlu. Dysgwch sut mae galw’r heddlu pan na allwch siarad.

Am gyngor cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd cysylltwch â llinell gymorth cam-drin domestig.

Os oes angen i chi adael eich cartref i ddianc rhag cam-drin domestig, nid yw cyfarwyddiadau ynysu i’r aelwyd yn berthnasol.

Canllaw wedi’i gyfieithu

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae gwybodaeth wedi’i chyfieithu i sawl iaith yn ogystal â fersiwn hawdd i’w ddarllen. Mae gan Cymorth i Fenywod ddogfennau canllawaiau ar gam-drin domestig a choronafeirws ar gael mewn nifer o ieithoedd hefyd i ddioddefwyr, teulu a ffrindiau, ac aelodau’r gymuned hynny sydd wedi cael eu heffeithio.

Os ydych yn fyddar, gallwch gyrchu fideo Iaith Arwyddion Prydain sydd yn egluro sut i gael help os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.

Adnabod cam-drin domestig

Ydy eich partner, cyn-bartner neu rywun sy’n byw gyda chi:

  • Yn eich torri i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau ac yn eich ynysu yn fwriadol?
  • Yn eich bwlio, bygwth neu’n eich rheoli?
  • Yn cymryd rheolaeth ar eich arian?
  • Yn monitro neu’n cyfyngu ar eich defnydd o dechnoleg?
  • Yn eich cam-drin yn gorfforol a/neu’n rhywiol?

Nid yw cam-drin domestig yn golygu trais corfforol o reidrwydd. Gall hefyd gynnwys:

  • Rheolaeth drwy orfodaeth a dibwyllo neu ‘gasleitio’
  • Cam-drin economaidd
  • Cam-drin ar-lein
  • Bygythiadau a brawychu
  • Cam-drin emosiynol
  • Cam-drin rhywiol

Gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, waeth beth fo’i ryw, oed, ethnigrwydd, crefydd, statws economaidd-gymdeithasol, rhywioldeb neu gefndir. Os ydych chi o’r farn eich bod yn dioddef cam-drin domestig, mae yna arwyddion y gallwch gadw llygad amdanynt gan gynnwys:

  • Bod yn dawedog, neu gael eich ynysu oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau
  • Cael cleisiau, lllosgiadau neu farciau cnoi arnoch
  • Cael eich arian wedi ei reoli, neu beidio â chael digon i allu prynu bwyd, meddyginiaeth neu dalu biliau
  • Peidio â chael gadael eich tŷ, neu wedi eich atal rhag mynd i’r coleg neu’r gwaith
  • Cael eich defnydd o’r rhyngrwyd neu gyfryngau cymdeithasol wedi eu monitro, neu fod rhywun arall yn darllen eich negeseuon testun, e-byst neu lythyrau
  • Cael eich bychanu’n barhaus, eich difrïo neu eich galw’n ddiwerth
  • Cael pwysau wedi ei ddodi arnoch i gael rhyw neu gyswllt rhywiol
  • Cael rhywun yn dweud mai eich bai chithau yw’r gamdriniaeth, neu eich bod yn gor-ymateb

Gweler mwy o arwyddion i chwilio amdanynt.

Cael help a chefnogaeth

Mae pob ffurf ar gam-drin domestig yn annerbyniol mewn unrhyw sefyllfa.

Os ydych chi’n profi cam-drin domestig ac yn teimlo’n ofnus o, neu wedi eich rheoli gan bartner, cyn-bartner neu aelod teuluol, mae’n bwysig cofio nad eich bai chi yw hwn a does dim cywilydd i’w deimlo wrth geisio am help.

Fe all ymddangos fel cam anodd i’w gymryd, ond mae cymorth ar gael a chofiwch #NidYdychArEich Hunan. Mae cymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim i ddioddefwyr ac aelodau eu teuluoedd a’u ffrindiau sy’n bryderus, 24 awr y dydd.

Cenedl Llinell Gymorth Cyswllt
Lloegr Refuge’s National Domestic Abuse Helpline 0808 2000 247
Sgwrs fyw ar-lein Ffurflen ar y we
Web form
Gogledd Iwerddon Domestic and Sexual Abuse Helpline 0808 802 1414
Sgwrs fyw ar lein help@dsahelpline.org
help@dsahelpline.org
Yr Alban Domestic Abuse and Forced Marriage Helpline 0800 027 1234
Sgwrs fyw ar lein helpline@sdafmh.org.uk
helpline@sdafmh.org.uk
Cymru Byw Heb Ofn 0808 80 10 800 Sgwrs fyw ar-lein gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Ar draws y DU Mae’r Llinell Gyngor i Ddynion sy’n cael ei redeg gan Respect yn linell gymorrth cyfrinachol yn arbennig ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd 0808 801 0327
info@mensadviceline.org.uk

Ap Bright Sky

Bright Sky – ap ffôn symudol a gwefan ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig, neu sy’n poeni am rywun arall.

Gellir lawrlwytho’r ap am ddim o’r siopau ap. Lawrlwythwch yr ap yn unig os yw’n ddiogel i chi wneud hynny a’ch bod yn siwr nad yw eich ffôn yn cael ei fonitro.

Cyfeiriadur Gwasanaethau Lleol Cymorth i Fenywod

Mae gan Cymorth i Fenywod gyfeiriadur gwasanaethau cymorth cam-drin domestig ledeld y DU. Os ydych yn dioddef cam-drin domestig neu’n gofidio am ffrindiau neu deulu, gallwch gael mynediad at wasanaeth sgwrs byw Cymorth i Fenywod 7 dydd yr wythnos, 10am i 6pm.

helpline@womensaid.org.uk

Cefnogaeth i ddioddefwyr

Mae Cefnogaeth i Ddioddefwyr yn rhedeg y gwasanaethau hyn ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr unrhyw gamdriniaeth neu drosedd, waeth bynnag pryd y digwyddodd neu os cafodd y drosedd ei riportio i’r heddlu:

Gair cod Gofyn am ANI

Os ydych chi’n profi camdriniaeth ddomestig ac angen help ar unwaith, gofynnwch am ANI (Angen Noddfa Iach) yn y fferyllfeydd a’r canolfannau gwaith sy’n cymryd rhan (Swyddfeydd Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).

Pan fyddwch yn gofyn am ANI, byddwch yn cael cynnig lle preifat a ffôn a bydd y staff yn gofyn a oes arnoch chi angen cymorth gan yr heddlu neu wasanaethau cymorth camdriniaeth ddomestig eraill.

I ffeindio’ch darparwr agosaf sy’n cymryd rhan, chwiliwch drwy ddefnyddio’r gwiriwr codau post ar y tudalen Gofyn am Ani ar wefan Digon.

Logo Gofyn am ANI sy’n cael ei ddefnyddio yn y fferyllfeydd a’r canolfannau gwaith sy'n cymryd rhan (Swyddfeydd Swyddi Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).

Logo Gofyn am ANI sy’n cael ei ddefnyddio yn y fferyllfeydd a’r canolfannau gwaith sy'n cymryd rhan (Swyddfeydd Swyddi Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).

Mannau Diogel

Mae ‘Gofyn am ANI’ yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Mannau Diogel, sef stafell ddiogel a chyfrinachol lle gall dioddefwyr gymryd amser i fyfyrio, cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau cymorth arbenigol neu ffonio ffrindiau neu deulu.

Mae [Mannau Diogel] (https://uksaysnomore.org/safespaces/) ar gael hefyd yn fferyllfeydd Boots, Morrisons, Superdrug a Well, banciau TSB a fferyllfeydd annibynnol ledled y Deyrnas Unedig.

Ffeindiwch eich Man Diogel agosaf.

Gwirio i weld os oes gan rywun orffennol camdriniol

Os ydych chi’n bryderus fod gan bartner newydd, cyn-bartner neu bartner presennol orffennol cam-driniol, gallwch ofyn i’r heddlu wirio hyn o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig (a elwir hefyd yn ‘Gyfraith Clare’). Dyma’ch ‘hawl i ofyn’. Os bydd cofnodion yn dangos y gallech fod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig, bydd yr heddlu yn ystyried datgelu’r wybodaeth. Gelir gwneud datgeliad os yw’n gyfreithlon, cymesur ac angenrheidiol i wneud hynny.

Os ydych chi’n bryderus ynglŷn â chyfaill neu aelod teuluol, gallwch wneud cais am ddatgeliad ar ran rhywun rydych yn ei adnabod.

Gallwch wneud cais i’r heddlu am wybodaeth ynglŷn â throseddu treisgar blaenorol person drwy fynd yn bersonol i’r orsaf heddlu neu rywle arall, neu dros y ffôn, drwy e-bost, ar-lein neu fel rhan o ymchwiliad gan yr heddlu. Gall asiantaethau a gwasanaethau cymorth hefyd eich helpu chi i ofyn yr heddlu am hyn.

Cael gorchymyn llys i’ch amddiffyn chithau neu eich plentyn

Os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig gallwch wneud cais am orchymyn llys neu waharddeb er mwyn amddiffyn eich hun neu eich plentyn rhag:

  • Eich partner presennol neu flaenorol
  • Aelod o’r teulu
  • Rhywun sydd yn byw gyda chi neu a fu’n byw gyda chi

Gelwir hyn yn orchymyn peidio ag ymyrryd neu feddiannaeth.

Gallwch wneud cais ar-lein, drwy e-bost neu’r post.

Cael gorchymyn llys os ydych wedi dioddef cam-drin domestig.

Cefnogi rhywun rydych yn ei adnabod

Os ydych chi’n poeni bod ffrind, cymydog neu anwylyd yn dioddef cam-drin domestig, gallwch alw’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cenedlaethol am gyngor cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd ar 0808 2000 247. Neu fe allwch ddod i gyswllt â’r gwasanaethau cymorth eraill a restrir ar y dudalen hon.

Gall ceisio cael help ar gyfer rhywun yr ydych yn ei adnabod fod yn heriol, ond cofiwch #NidYdychArEichHun / #YouAreNotalone. Bydd ymgynghorwyr cam-drin domestig yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, heb farnu, ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael i chi er mwyn eich cadw yn ddiogel a’ch galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.

Os ydych chi’n credu fod yna risg dybryd o niwed i rywun, neu ei fod yn argyfwng, dylech alw 999 bob tro.

Os yw rhywun yn ymddiried ynddoch, mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae cefngi ffrind sy’n cael ei gam-drin.

Os ydych yn gyflogwr

Gadewch i’r bobl rydych yn eu cyflogi wybod os ydyn nhw’n wynebu cam-drin domestig eich bod yn awyddus i’w helpu nhw i gael help. Cadwch mewn cyswllt rheolaidd gyda’ch gweithwyr cyflogedig rydych yn gwybod, neu eich bod yn poeni sy’n wynebu cam-driniaeth ac os byddwch yn colli cyswllt â nhw, cymerwch gamau cyflym i ymweld â nhw. Os ydych chi’n credu fod yna risg dybryd i rywun, neu ei fod yn argyfwng, dylech alw 999 bob tro.

Anogwch weithwyr cyflogedig i edrych allan am rai eraill a allai fod yn wynebu cam-drin domestig a chyfeiriwch nhw tuag at gymorth. Gallai eich staff fod yn poeni am eu hymddygiad camdriniol eu hunain hefyd ar yr adeg yma. Does dim esgus dros gam-drin domestig, waeth bynnag pa straen y byddwch chi’n ei ddioddef ac mae cymorth ar gael.

Mae Llinell Gymorth Ymateb i Gamdriniaeth (Respond to Abuse Advice Line) Hestia yn adnodd am ddim i gyflogwyr. Gall cyflogwyr alw  020 3879 3695 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm, neu e-bostio adviceline.eb@hestia.org am gymorth, arweiniad neu wybodaeth ynglŷn â cham-drin domestig a sut mae cefnogi gweithwyr cyflogedig a chydweithwyr sydd yn profi cam-drin domestig.

Mae Gwefan y Cyflogwyr ar Gam-drin Domestig yn cynnig adnoddau i gefnogi cyflogwyr gan gynnwys pecyn cymorth i gyflogwyr.

Os ydych yn berson proffesiynol sydd yn gweithio o fewn y sector cam-drin domestig.

Mae SafeLives yn cynnig arweiniad a chymorth i bobl broffesiynol a’r sawl sydd yn gweithio yn y sector cam-drin domestig, yn ogystal â chyngor ychwanegol i’r rhai sydd mewn perygl.

Dod o hyd i wybodaeth a chymorth ychwanegol

Os ydych am gael cymorth yn benodol i ddarparu ar gyfer eich cefndir ac anghenion neu eich bod yn dymuno cael cymorth a help ar gyfer mathau arbennig o gam-drin mae yna nifer o fudiadau all helpu – gweler Cam-drin domestig: ffynonellau cymorth arbenigol.

Gallwch ddod o hyd hefyd i wybodaeth ychwanegol a chymorth yma ar bynciau gan gynnwys:

  • help i blant a phobl ifanc
  • budd-daliadau lles a chyngor ar dai
  • help os nad oes gennych statws preswylydd sefydlog yn y DU
  • cymorth ar gyfer mathau penodol o gam-drin

Cael help os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gamdriniwr

Os ydych chi’n poeni am eich ymddygiad neu ymddygiad rhywun rydych chi’n ei adnabod, mae cymorth ar gael. Mae Llinell Ffôn Respect yn llinell gymorth ddienw a chyfrinachol ar gyfer dynion a menywod sydd yn cam-drin eu partneriaid a’u teuluoedd. Mae’n agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 9am hyd at 8pm. Mae’r Llinell Gymorth hefyd yn cymryd galwadau gan bartneriaid neu gynbartneriaid, ffrindiau a pherthnasau sy’n pryderu am gyflawnwyr camdriniaeth.

Mae gwasanaeth sgwrs dros y we ar gael ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener o 10am hyd at 11am ac o 3pm hyd at 4pm.

Ffôn: 0808 802 4040.

Sut i alw’r heddlu pan na allwch siarad

Os ydych mewn perygl ac yn methu â siarad ar y ffôn, galwch 999 a gwrandewch ar gwestiynau’r swyddog sy’n trafod yr alwad ac os gallwch, ymatebwch drwy beswch neu roi tap i’r ffôn.

Galw 999 o ffôn symudol

Os cewch eich annog i wneud hynny, gwasgwch 55 i Gwneud i Rywun Eich Clywed a bydd hyn yn trosglwyddo eich galwad i’r heddlu. Mae gwasgu 55 yn gweithio ar ffonau symudol yn unig ac nid yw’n caniatáu i’r heddlu olrhain eich lleoliad.

Galw 999 o linell ddaearol

Os na all y swyddog sy’n trafod yr alwad glywed unrhyw beth heblaw am sŵn cefndir ac yn methu penderfynu a oes angen gwasanaeth brys, byddwch yn cael eich cysylltu i swyddog rheoli galwadau’r heddlu. Os byddwch yn rhoi’r ffôn i lawr, gall cysylltiad y llinell ddaearol barhau am 45 eiliad rhag ofn y byddwch yn ei godi eto.

Pan fydd galwadau 999 yn cael eu gwneud o linellau daearol, dylai gwybodaeth am eich lleoliad fod ar gael yn awtomatig i’r swyddogion sy’n trafod y galwadau er mwyn helpu rhoi ymateb.

Os ydych yn fyddar neu’n methu defnyddio ffôn

Gallwch gofrestri gyda SMSargyfwng. Danfonwch neges testun COFRESTRU at 999. Fe gewch neges destun fydd yn dweud wrthych chi beth i’w wneud nesaf. Gwnewch hyn pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny fel y gallwch anfon neges testun pan fyddwch chi mewn perygl.

Cyhoeddwyd ar 5 October 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 September 2023 + show all updates
  1. Updated the information under the headings Ask for Ani and Safe Spaces in the translated versions.

  2. Updates made to 'Ask for ANI codeword' and 'Safe Spaces' sections.

  3. Added a link to an easy read version of the guidance.

  4. Added translations of the page in Arabic, Bangla, Chinese, French, Gujarati, Hindi, Italian, Persian, Polish, Punjabi, Romanian, Somali, Spanish, Tamil, Urdu and Welsh.

  5. Added information about support available from Women's Aid and Victim Support, as well as a link to a video in British Sign Language about how to get help.

  6. Guidance restructured and reordered to improve layout. Some information moved to a new page about sources of support for specific situations.

  7. Updated with Men's Advice Helpline details.

  8. Added a new section on the Ask for ANI codeword scheme. New information on Safe Spaces and Hestia's Everyone's Business Advice Line.

  9. Added link to easy read version.

  10. Added more information about help for children and young people.

  11. Welsh translation added.

  12. Added more specific information about how to get help during the coronavirus (COVID-19) outbreak.

  13. Information about additional support organisations added to the page.

  14. Support contact points added for people who are deaf or hard of hearing, or who cannot communicate verbally.

  15. Updates to the list of support services available.

  16. Added a link to the factsheet 'Coronavirus (COVID-19): support for victims of domestic abuse'.

  17. First published.