Ffurflen

Gwneud cais am ysgariad neu gais i ddiddymu partneriaeth sifil: Ffurflen D8

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i’r llys i ddod â’ch priodas neu eich partneriaeth sifil i ben.

Dogfennau

Ffurflen gais: D8

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch hefyd wneud cais am ysgariad ar-lein neu wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein.

Cymorth i wneud cais ar-lein

Gallwch ffonio’r llinell gymorth ddigidol:

  • os nad ydych yn hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych gyfrifiadur neu ffôn clyfar y medrwch ei ddefnyddio

Llinell gymorth ddigidol
Rhif ffôn: 03300 160051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn rhoi galwad yn ôl ichi
Gwybodaeth am gost galwadau

Rhagor o wybodaeth

Darllen mwy am briodas, partneriaeth sifil ac ysgariad.

Darganfyddwch faint y bydd angen i chi ei dalu ac a allwch gael help i dalu ffioedd.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 1 August 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 March 2024 + show all updates
  1. The email address and phone line opening times have been updated.

  2. Removed a reference to cheque payments on the last page of the English form

  3. Added Welsh translation

  4. Added an updated Welsh form

  5. Updated the statement of truth section

  6. Added details on how to get support when applying online

  7. Uploaded new D8

  8. Uploaded new version of form

  9. New D8 added with note about coming changes in divorce

  10. Revised forms D8 uploaded.

  11. Added accessible form D8.

  12. Added revised D8 and large print versions that reference the online process.

  13. Add in link to online service.

  14. First published.