Siarter gwybodaeth bersonol

Sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol a sut i wirio pa fanylion rydym yn eu cadw amdanoch yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.


Polisi preifatrwydd GLlTEM

Mae’r polisi hwn yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) pan fyddwn yn dal neu’n gofyn am wybodaeth bersonol (data personol) amdanoch chi; sut y gallwch gael gafael ar gopi o’ch data personol; a’r hyn y gallwch ei wneud os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le.

Siarter wybodaeth MOJ Privacy notice for Court of Protection forms (PDF, 85.7 KB, 3 pages)

Mae GLlTEM yn casglu a phrosesu data personol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gweinyddu cyfiawnder

  • gorfodaeth troseddol a sifil, gan gynnwys casglu dirwyon

  • ymchwil ar gyfer datblygu polisïau ac ystadegau

  • gwella’r gwasanaethau a ddarparwn

Mae gan GLlTEM rwydwaith o Ganolfannau Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSC) sy’n delio â sawl agwedd o achosion llys a thribiwnlys mewn nifer o awdurdodaethau. Mae hyn yn cynnwys delio â gwybodaeth a geir gan ein defnyddwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu gwesgyrsiau. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr, ffôn, gwe-sgwrs neu neges testun.

Pan fyddwch yn cysylltu â CTSC efallai y byddwn hefyd yn recordio galwadau ffôn a chadw cofnod o gwesgyrsiau, negeseuon e-bost a ffurflenni gwe.

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion teulu

Achosion teulu yw achosion lle gofynnir i’r llys ddatrys problem mewn perthynas â phlant. Mae hefyd yn cynnwys anghydfodau rhwng partïon, megis ysgariad a rhwymedi ariannol. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych wrth wneud neu wrth ymateb i gais yn y llys teulu neu Adran Teulu yr Uchel Lys.

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ffurflenni’r Llys Gwarchod (PDF, 117 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion sifil

Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn prosesu data personol amdanoch chi yng nghyswllt achosion yn y llys sifil megis hawliadau am arian, meddiannu eiddo a materion ansolfedd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch gael copi o’ch data personol a beth allwch wneud os ydych chi’n credu nad yw’r safonau’n cael eu bodloni.

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffurflen help i dalu ffioedd (PDF, 117 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer ein tribiwnlysoedd

Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich data mewn achosion sy’n cael eu gwrando yn ein tribiwnlysoedd.

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffurflenni’r llys sifil (PDF, 118 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion troseddol

Mae rhagor o wybodaeth am y data a gesglir yn ystod achosion troseddol ar gael yn y Rheolau Trefniadaeth Droseddol.

Polisi preifatrwydd ar gyfer y Llys Gwarchod

Mae’r polisi hwn yn nodi sut rydym yn defnyddio eich data mewn achosion a wrandewir yn y Llys Gwarchod.

Polisi preifatrwydd ar gyfer Help i Dalu Ffioedd

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ffurflen EX160, a ddefnyddir wrth wneud cais am help i dalu ffioedd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd

Hysbysiad Preifatrwydd GDPR i gyflogeion, gweithwyr a chontractwyr (DU) (PDF, 283 KB, 10 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer arolygon defnyddwyr

Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi manylion am lenwi arolygon defnyddwyr GLlTEF.

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolygon defnyddwyr GLlTEF (PDF, 208 KB, 3 pages)

Gwasanaethau ar-lein

Os byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, mae’r hysbysiad preifatrwydd a’r telerau ac amodau i’w gweld o fewn y gwasanaeth ar-lein.

Os byddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu data sy’n rhoi gwybodaeth i ni am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn, gan gynnwys:

  • os byddwch yn agor neges e-bost gennym neu’n clicio ar ddolen mewn e-bost
  • cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, eich ffôn neu’ch cyfrifiadur llechen
  • yr ardal neu’r dref lle rydych yn defnyddio eich cyfrifiadur, eich ffôn neu’ch cyfrifiadur llechen
  • y porwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio

Ceisiadau am wybodaeth bersonol

Fel asiantaeth weithredol o’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, mae siarter gwybodaeth bersonol y Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd yn esbonio sut rydym yn delio â cheisiadau am wybodaeth bersonol.