Os nad oes ewyllys

Os na adawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys, gall yr etifedd sydd â’r hawl gryfaf wneud cais i fod yn weinyddwr yr ystad.

Dyma’r perthynas byw agosaf - fel arfer gŵr, gwraig neu bartner sifil (gan gynnwys os ydych wedi gwahanu) ac yna unrhyw blant sy’n 18 oed neu’n hŷn (gan gynnwys plant a fabwysiadwyd yn gyfreithiol ond nid llys-blant).

Defnyddiwch y gyfrifiannell etifeddiant i benderfynu pwy yw’r perthynas agosaf os nad oes gŵr, gwraig, partner sifil na phlant.

Ni allwch wneud cais os mai chi oedd partner y sawl a fu farw ond nad oeddech yn briod neu’n bartner sifil iddo/iddi pan fu farw.

Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd os oes angen mwy o help arnoch i benderfynu pwy all weinyddu’r ystad.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Y gyfraith sy’n penderfynu pwy fydd yn etifeddu asedau (er enghraifft, arian neu eiddo) os nad oes ewyllys. Defnyddiwch y gyfrifiannell etifeddiaeth i gyfrifo pwy fydd yn etifeddu.

Cyn i chi wneud cais am brofiant, bydd angen i chi amcangyfrif gwerth ystad yr unigolyn a fu farw. Byddwch angen nodi hwn pan fyddwch yn gwneud y cais.

Os nad ydych eisiau gwneud cais

Os mai chi yw’r sawl sydd â’r hawl fwyaf i weinyddu’r ystad ond nad ydych eisiau gwneud hynny, gallwch naill ai benodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan neu roi’r gorau i’ch hawl yn barhaol i weinyddu’r ystad.

Penodi rhywun i weinyddu’r ystad ar eich rhan

Llenwch ffurflen PA12 i ganiatáu i hyd at 4 unigolyn gael ‘atwrneiaeth’. Mae hyn yn golygu y gallant wneud cais am brofiant ar eich rhan a gweinyddu’r ystad ar eich rhan. Gallwch wneud cais o hyd am brofiant eich hun yn nes ymlaen os ydych eisiau cymryd atwrneiaeth yn ôl.

Gallwch hefyd benodi rhywun sy’n defnyddio atwrneiaeth arhosol gofrestredig (LPA) neu atwrneiaeth barhaus wedi’i llofnodi (EPA).

Rhoi’r gorau i’ch hawl i weinyddu’r ystad

Os oes gan y sawl a fu farw blant a’ch bod yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil iddo/iddi, llenwch ffurflen PA16. Ar ôl hynny:

  • os yw’r plant i gyd yn 18 oed neu’n hŷn, bydd angen i o leiaf un ohonynt wneud cais i fod yn weinyddwr
  • os yw rhai neu bob un o’r plant o dan 18 oed, bydd angen i bobl eraill wneud cais - cysylltwch â Chofrestrfa Brofiant Dosbarth Lerpwl i gael gwybod pwy fydd angen gwneud cais

Ym mhob sefyllfa arall, siaradwch ag ymarferydd profiant (fel cyfreithiwr) yn lle hynny. Darllenwch ganllawiau gan Money Helper am ddefnyddio ymarferydd profiant.