Amcangyfrif gwerth yr ystad

Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.

Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • mae gwerth yr ystad o dan y trothwy, sef £325,000
  • rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol

Os mai gweddw oedd yr unigolyn a fu farw, neu os yw’n rhoi ei gartref i ffwrdd i’w blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.

Cyfrifo’ch amcangyfrif

Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystad. Mae hyn yn cynnwys:

Ar yr adeg hon, bydd dim ond angen i’ch amcangyfrif fod yn ddigon cywir i chi wybod a oes treth yn daladwy ar yr ystad. Bydd angen prisiadau cywir arnoch os oes treth yn daladwy.

Gallwch gyfrifo’r amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant.

Defnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant ar-lein

Bydd y gwiriwr yn:

  • rhoi i chi amcangyfrif o werth yr ystad
  • eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio

Nid yw’r gwiriwr yn:

  • cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus
  • rhoi gwybod i HMRC am werth terfynol yr ystad

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i amcangyfrif gwerth yr ystad:

  • manylion asedion yr unigolyn, gan gynnwys asedion ar y cyd
  • manylion unrhyw roddion a wnaeth

Prisio’r asedion

Dechreuwch drwy restru asedion yr unigolyn – y pethau yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt a oedd â gwerth ariannol.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • eu cartref
  • unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
  • arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn eu cartref
  • stociau a chyfranddaliadau
  • eitemau i’r tŷ ac eitemau personol, gan gynnwys dodrefn, paentiadau a gemwaith
  • ceir, carafannau neu gychod
  • asedion tramor, megis eiddo tramor
  • arian sy’n ddyledus iddynt – er enghraifft, cyflog neu ad-daliadau o filiau’r cartref
  • taliadau pan fu’r unigolyn farw – er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad ‘buddiant marwolaeth’ o bensiwn

Yna, amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu’r unigolyn farw.

Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion a adawyd i briod neu bartner sifil yr unigolyn, neu i elusen – ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.

Ar gyfer eitemau megis gemwaith, paentiadau neu nwyddau eraill i’r tŷ, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe baech wedi’u gwerthu ar y farchnad agored. Gallwch ddefnyddio marchnadfeydd ar-lein i helpu i gyfrifo eu gwerth.

Prisio asedion ar y cyd

Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt ar y cyd â rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.

Mae’r rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:

  • ‘cyd-denantiaid’ (‘cydberchnogion’ yn yr Alban)
  • ‘tenantiaid cydradd’ (‘perchnogion cydradd’ yn yr Alban)

Cyd-denantiaid

Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i’r perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.

Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil yr unigolyn, rhannwch werth yr ased â 2.

Os perchenogwyd y tir neu’r eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a’r llall o’r canlynol:

  • rhannu’r gwerth â nifer y perchnogion
  • didynnu 10% oddi wrth gyfran yr unigolyn a fu farw

Enghraifft

Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y buodd farw, sy’n rhoi cyfran o £50,000 iddo (£200,000 wedi’u rhannu â 4).

Ar ôl didynnu 10% (£5,000) oddi wrth gyfran £50,000 yr ymadawedig, y gwerth terfynol yw £45,000 (£50,000 - £5,000 = £45,000).

Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd â phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch £4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran yr ymadawedig.

Enghraifft

Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo yn yr Alban fel cydberchennog gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y buodd farw.

Ar ôl i £4,000 gael ei ddidynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae £196,000 yn weddill (£200,000 - £4,000).

Ar ôl rhannu hyn â nifer y perchnogion, cyfran yr ymadawedig o’r eiddo yw £49,000 (£196,000 wedi’u rhannu â 4).

Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person hŷn yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda’r cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno mewn gwirionedd yn lle hynny.

Tenantiaid cydradd

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo’n awtomatig unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd.

Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.

Cyfrifo gwerth unrhyw roddion

Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan yr unigolyn a fu farw.

Dim ond os gwnaed y rhoddion yn ystod y 7 mlynedd cyn i’r unigolyn farw a dim ond os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion dros yr eithriad blynyddol o £3,000 y mae rhoddion yn cyfrif tuag at werth ystad.

Os bydd unigolyn yn byw am 7 mlynedd ar ôl gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i’w thalu.

Mae unrhyw rodd yr oedd unigolyn yn parhau i gael budd ohoni cyn iddynt farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystad – er enghraifft, os gwnaeth yr unigolyn roi tŷ i ffwrdd ond ei fod yn byw ynddo’n ddi-rent (yr enw ar hyn yw ‘rhodd â budd amodol’).

Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ar roddion i elusennau neu bleidiau gwleidyddol.

Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd

Gall rhodd gynnwys:

  • arian
  • nwyddau’r tŷ a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
  • tŷ, tir neu adeiladau
  • stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
  • cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i’r unigolyn farw

Gwirio am roddion

Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:

  • darllen drwy gyfriflenni banc
  • siarad ag aelodau o’r teulu
  • edrych drwy ddogfennau ariannol

Cofnodwch werth unrhyw rodd a’r dyddiad rhoi.

Amcangyfrif gwerth y rhodd

I amcangyfrif gwerth pob rhodd, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
  • pris realistig ar gyfer gwerthu’r rhodd, os oedd yr ymadawedig yn parhau i gael budd o’r rhodd ar ôl ei rhoi i ffwrdd (sef ‘rhodd â budd amodol’)

Dyledion

Peidiwch â chynnwys dyledion yr ystad wrth amcangyfrif y gwerth gros. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (HMRC) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am werth yr ystad.

Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw’r unigolyn, er enghraifft:

  • ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
  • ‘rhwymedigaethau’ megis biliau’r cartref neu filiau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd yr unigolyn wedi’u cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, cyfrifwyr)

Yr hyn i’w wneud nesaf

Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystad.