Trosolwg

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid ichi benderfynu pa fath o gydberchnogaeth yr hoffech ei chael os ydych yn prynu, yn etifeddu neu’n dod yn ymddiriedolwr eiddo gyda rhywun arall. Rydych yn dweud wrth Gofrestrfa Tir EF am hyn pan fyddwch yn cofrestru’r eiddo.

Gallwch berchen ar eiddo naill ai fel ‘cyd-denantiaid’ neu ‘denantiaid cydradd’.

Mae’r math o berchnogaeth yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda’r eiddo os yw’ch perthynas â chydberchennog yn chwalu, neu os yw un perchennog yn marw.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan rywun sy’n arbenigo mewn eiddo.

Cyd-denantiaid

Fel cyd-denantiaid (a elwir weithiau yn ‘gyd-denantiaid llesiannol’):

  • mae hawliau cyfartal gennych i’r eiddo cyfan
  • mae’r eiddo yn mynd yn awtomatig i’r perchnogion eraill os ydych yn marw
  • ni allwch drosglwyddo eich perchnogaeth o’r eiddo yn eich ewyllys

Tenantiaid cydradd

Fel tenantiaid cydradd:

  • gallwch berchen ar gyfrannau gwahanol o’r eiddo
  • nid yw’r eiddo yn mynd yn awtomatig i’r perchnogion eraill os ydych yn marw
  • gallwch drosglwyddo eich cyfran o’r eiddo yn eich ewyllys

Newid eich math o berchnogaeth

Gallwch newid o fod naill ai’n:

Ni chodir ffi i wneud hyn.

Gallwch newid o fod yn unig berchennog i denantiaid cydradd neu gyd-denantiaid hefyd, ee os ydych am ychwanegu eich partner fel cydberchennog. Gelwir hyn yn drosglwyddo perchnogaeth.

Gwerthu’r eiddo os yw’r perchennog arall wedi colli gallu meddyliol

Bydd yn rhaid ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydych am werthu’r eiddo ond mae’r perchennog arall wedi colli ‘gallu meddyliol’.