Gwerthu pan fydd perchennog wedi colli gallu meddyliol

Rhaid ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod os yw pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn un o 2 neu ragor o berchnogion yr eiddo neu’r tir
  • mae un o’r perchnogion wedi colli ‘gallu meddyliol’
  • rydych am werthu’r eiddo neu’r tir

Mae colli gallu meddyliol yn golygu na all rhywun wneud penderfyniad ei hun ar yr adeg pan fydd angen ei wneud.

Mae hyn yn golygu:

  • na all y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol lofnodi dogfennau cyfreithiol rhwymol a bod angen cymorth arno i wneud penderfyniadau
  • bydd yn rhaid ichi wneud cais i benodi rhywun i gymryd lle’r perchennog sydd wedi colli gallu er mwyn i’r eiddo gael ei werthu

Penodi rhywun i weithredu ar ran perchennog

Bydd yn rhaid ichi benodi rhywun i weithredu ar ran y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol hyd yn oed:

Efallai na fydd yn rhaid ichi wneud cais os oes pŵer atwrnai cofrestredig gennych.

Darllenwch y cyfarwyddyd ar werthu eiddo cydberchnogaeth (COP GN2) i weld a oes angen ichi wneud cais.

Cael y ffurflenni

Llwythwch i lawr a llenwch:

Ffïoedd

Codir ffi o £371 i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu £494 ychwanegol os yw’r llys yn penderfynu bod angen cynnal gwrandawiad.

Darllenwch y cyfarwyddyd ffïoedd i wybod pryd na fydd yn rhaid ichi dalu efallai.

Ymholiadau

Cysylltwch â’r Llys Gwarchod am gymorth ac i wybod a oes yn rhaid ichi lenwi ffurflenni eraill.

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@hmcts.gov.uk
Ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darllenwch ragor am gost galwadau

Gallwch ysgrifennu at y Llys Gwarchod hefyd neu fynd i’r cownter cyhoeddus.

Ni allwch gael cyngor cyfreithiol gan staff y llys.

Anfon eich cais

Anfonwch y copi gwreiddiol ac un copi o bob un o’r canlynol i’r Llys Gwarchod:

  • y ffurflen gais
  • datganiad tyst
  • copi o’r cofnodion yng Nghofrestrfa Tir EF os yw’r gwerthiant yn cynnwys unrhyw dir cofrestredig
  • copi o’r trawsgludiad os yw’r eiddo’n ddigofrestredig
  • unrhyw ddogfennau eraill a gwybodaeth y gofynnir amdanynt

Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
London
WC1A 9JA

Dweud wrth bobl am eich cais

Bydd y Llys Gwarchod yn anfon copi o’ch ffurflenni cais atoch, wedi’i stampio â dyddiad cyhoeddi, wythnos ar ôl ichi wneud cais.

Rhaid ichi ddweud wrth (‘cyflwyno’) unrhyw un a enwir yn eich cais (ee y sawl sydd wedi colli gallu) ynghylch gwneud cais o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi.

Darllenwch y cyfarwyddyd (COP1) i wybod pwy i’w hysbysu.

Anfonwch y canlynol atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • trwy’r post i’w cyfeiriad cartref
  • trwy ffacs
  • yn bersonol

Cadarnhau eich bod wedi dweud wrth bobl

O fewn 7 diwrnod o gyflwyno’r dogfennau, rhaid ichi lwytho i lawr a llenwi’r ffurflenni (‘tystysgrifau cyflwyno’) yn cadarnhau eich bod wedi dweud wrth:

Anfonwch nhw i gyd gyda’i gilydd i’r Llys Gwarchod – mae’r cyfeiriad i’w weld ar y ffurflenni.

Ar ôl gwneud cais

Darllenwch y cyfarwyddyd i gael gwybod beth sy’n digwydd os oes rhaid ichi fynd i wrandawiad yn y Llys Gwarchod.

Diweddarwch y cofnodion eiddo ar ôl ichi benodi rhywun i weithredu ar gyfer y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol.

Os yw’ch cais yn cael ei wrthod ac ni chawsoch wrandawiad

Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei ailystyried os yw’ch cais yn cael ei wrthod ac ni chawsoch wrandawiad.

Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen gais COP9.

Anfonwch y gwreiddiol, un copi o’r ffurflen ac unrhyw ddogfennau y gofynnir amdanynt yn y ffurflen i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhaid ichi wneud cais o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud.

Mae’n rhad ac am ddim.

Os yw’ch cais yn cael ei wrthod a chawsoch wrandawiad

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os yw’ch cais yn cael ei wrthod a chawsoch wrandawiad llafar.

Llwythwch i lawr a llenwch hysbysiad apelydd (COP35).

Anfonwch yr hysbysiad ac unrhyw ddogfennau eraill y gofynnir amdanynt yn y ffurflen i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhaid ichi wneud cais o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud neu o fewn y terfyn amser a osodwyd gan y barnwr a wrthododd eich cais.

Ffïoedd

Codir ffi o £234 i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu £494 ychwanegol os yw’r llys yn penderfynu bod angen cynnal gwrandawiad.

Darllenwch y cyfarwyddyd ffïoedd i wybod pryd na fydd yn rhaid ichi dalu efallai.

Ceisiadau brys

Cysylltwch â’r Llys Gwarchod i wneud cais brys, ee i atal rhywun sydd heb y gallu meddyliol rhag cael ei symud o’r lle mae’n byw.