Cydberchnogaeth
Newid o denantiaid cydradd i gyd-denantiaid
Rhaid ichi gael cytundeb yr holl gydberchnogion eraill i newid o fod yn denantiaid cydradd i gyd-denantiaid.
Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol wneud y cais ichi hefyd.
Sut i wneud cais
- 
    
Cwblhewch weithred ymddiried newydd neu wedi’i diweddaru – gall trawsgludwr eich helpu i wneud hyn.
 - 
    
Llwythwch i lawr a llenwch y ffurflen i ddileu cyfyngiad, os yw un wedi cael ei gofrestru.
 - 
    
Paratowch unrhyw ddogfennau cefnogol y mae angen ichi eu cynnwys.
 - 
    
Anfonwch y ffurflen a’r dogfennau i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.
 
Dogfennau cefnogol
Rhaid ichi gynnwys un o’r canlynol:
- copi gwreiddiol neu ardystiedig o’r weithred ymddiried newydd neu wedi’i diweddaru wedi’i lofnodi gan yr holl berchnogion
 - copi ardystiedig o drosglwyddiad yn dangos bod yr holl berchnogion sydd â chyfrannau unigol o’r eiddo wedi trosglwyddo’r rhain i’r holl gyd-denantiaid llesiannol
 - tystysgrif gan eich trawsgludwr yn cadarnhau bod yr holl berchnogion sydd â chyfrannau o’r eiddo wedi llofnodi gweithred ymddiried newydd
 - datganiad statudol wedi’i baratoi gan eich trawsgludwr
 - ‘datganiad o wirionedd’ – naill ai un rydych wedi’i baratoi eich hun neu gan ddefnyddio ffurflen ST5
 
Os ydych yn anfon datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, rhaid cynnwys copi ardystiedig o’r weithred ymddiried newydd neu’r trosglwyddiad.
Rhaid i ddatganiad o wirionedd fod:
- yn ysgrifenedig a chynnwys y geiriau “Credaf fod y ffeithiau a’r materion sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn yn gywir”
 - wedi’i lofnodi gan y sawl sy’n ei wneud
 
Rhaid i’r dogfennau cefnogol brofi pob un o’r canlynol:
- nid oes gan unrhyw un arall heblaw’r cydberchnogion a enwir gyfrannau’r eiddo
 - nid oes un o’r cydberchnogion yn mynd yn fethdalwr, nid oes unrhyw un â gorchymyn tâl gan gredydwyr neu’n morgeisio ei gyfran o’r eiddo
 - mae’r holl gydberchnogion yn berchen ar yr eiddo gyda’i gilydd erbyn hyn fel cyd-denantiaid llesiannol
 
Ble i anfon eich cais
HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB