Newid o gyd-denantiaid i denantiaid cydradd

Gelwir hyn yn ‘holltiad cyd-denantiaeth’. Dylech wneud cais am ‘gyfyngiad Ffurf A’.

Gallwch wneud y newid hwn heb gytundeb y perchnogion eraill.

Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol wneud y cais ichi hefyd.

Sut i wneud cais os nad yw’r perchnogion eraill yn cytuno ar y newid

  1. Cyflwynwch rybudd ysgrifenedig o’r newid (‘rhybudd holltiad’) ar y perchnogion eraill – gall trawsgludwr eich helpu i wneud hyn.

  2. Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen SEV i gofrestru cyfyngiad heb gytundeb y perchnogion eraill. Gallwch lenwi ffurflen RX1 hefyd i gofrestru ‘cyfyngiad Ffurf A’ os na allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth o opsiynau holltiad a restrir yn ffurflen SEV.

  3. Paratowch unrhyw ddogfennau cefnogol y mae angen ichi eu cynnwys.

  4. Anfonwch y ffurflen a’r dogfennau cefnogol i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

Dogfennau cefnogol

Dylech gynnwys copi gwreiddiol neu ardystiedig o’r rhybudd o holltiad wedi’i lofnodi gan yr holl berchnogion.

Os na allwch gael llofnodion y perchnogion eraill gallwch anfon llythyr yn lle hynny yn ardystio eich bod wedi gwneud un o’r canlynol gyda’r rhybudd o holltiad:

  • ei roi i’r holl berchnogion eraill
  • ei adael yng nghartref neu gyfeiriad busnes hysbys diwethaf y perchnogion eraill yn y DU
  • ei anfon trwy’r post cofrestredig neu bost cofnodedig i gyfeiriad cartref neu fusnes hysbys diwethaf y perchnogion eraill ac ni chafodd ei ddychwelyd fel post heb ei anfon

Sut i wneud cais os yw’r perchnogion eraill yn cytuno ar y newid

  1. Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen SEV i gofrestru ‘cyfyngiad Ffurf A’ os yw’r holl berchnogion yn cytuno.

  2. Anfonwch y ffurflen a’r weithred ymddiried i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

Ble i anfon eich cais

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB