Gwirio manylion eich perchnogaeth

Mae modd gwybod pa fath o gydberchnogaeth sydd gennych trwy edrych ar ddogfennau megis:

  • trosglwyddiad eiddo
  • prydles eiddo
  • gweithred ymddiried, a elwir hefyd yn ‘ddatganiad ymddiried’ (dogfen sy’n nodi cyfran perchennog mewn eiddo cydberchnogaeth)

Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol eich helpu i weld pa fath o gydberchnogaeth sydd gennych os nad ydych yn siwr.

Gall eich math o berchnogaeth newid weithiau heb yn wybod ichi, ee os yw un o’r perchnogion eraill yn mynd yn fethdalwr.