Cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion penodol ar ôl prisio ystad.

Gall Cyllid a Thollau EF (HMRC) ofyn am gael gweld eich cofnodion hyd at 20 mlynedd ar ôl i’r Dreth Etifeddiant gael ei thalu.

Mae’n rhaid i chi gadw copïau o unrhyw:

  • ewyllys
  • copïau o ffurflenni a dogfennau atodol ynghylch Treth Etifeddiant sydd wedi’u llofnodi
  • cofnodion sy’n dangos sut y gwnaethoch gyfrifo gwerth asedion yr ystad, er enghraifft prisiad asiant tai
  • dogfennau sy’n dangos unrhyw drothwy Treth Etifeddiant sydd heb ei ddefnyddio a all gael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy’n fyw
  • cyfrifon terfynol

Cyfrifon terfynol

Dylech gynnwys unrhyw ddogfennau sy’n dangos sut y gwnaethoch ddosbarthu arian, eiddo neu feddiannau personol o’r ystad, er enghraifft:

  • llythyrau gan HMRC sy’n cadarnhau eich bod wedi talu Treth Etifeddiant
  • derbynebau sy’n dangos dyledion wedi’u talu, er enghraifft biliau cyfleustodau
  • derbynebau ar gyfer eich treuliau yn sgil delio â’r ystad
  • cadarnhad ar bapur fod y ‘buddiolwyr’ (unrhyw un sydd wedi etifeddu) wedi cael eu cyfran o’r ystad

Anfonwch gopïau o’r cyfrifon terfynol at bob buddiolwr.