Pan fydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner

Os bydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner, gall y dogfennau sydd eu hangen arnoch i gofrestru’r farwolaeth fod yn wahanol.

Bydd y crwner yn ceisio darganfod sut y bu i’r unigolyn farw. Byddant yn rhyddhau’r corff i’w amlosgi neu ei gladdu unwaiith y byddant wedi cynnal eu harchwiliadau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os na fydd y crwner yn ymchwilio i farwolaeth

Efallai y bydd y crwner yn penderfynu nad oes angen iddynt gynnal ymchwiliad ar ôl i farwolaeth gael ei adrodd iddynt. Bydd yr archwilydd meddygol yn cysylltu â chi i gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.

Os bydd y crwner yn canfod achos y farwolaeth

Os bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir:

  1. Byddant yn rhoi tystysgrif i’r cofrestrydd yn dweud nad oes angen cwest.

  2. Bydd y cofrestrydd yn cysylltu â chi i drefnu i’r farwolaeth gael ei chofrestru.

Os bydd y crwner yn cynnal cwest

Mae’n rhaid i grwner gynnal cwest:

  • os yw achos y farwolaeth dal yn anhysbys
  • os yw’r unigolyn efallai wedi marw dan amgylchiadau treisgar neu annaturiol
  • os yw’r unigolyn efallai wedi marw yn y carchar neu yn nalfa’r heddlu

Tystysgrifau marwolaeth

Os oes angen prawf o’r farwolaeth arnoch tra byddwch yn aros i’r cwest ddod i ben, gofynnwch i’r crwner am dystysgrif marwolaeth interim.

Unwaith y bydd y cwest drosodd, gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol gan y cofrestrydd.

Gallwch ddefnyddio’r naill dystysgrif neu’r llall i:

Os oes angen post-mortem

Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen cynnal post-mortem i ddarganfod sut y bu farw’r unigolyn. Gellir gwneud hyn naill ai mewn ysbyty neu fortiwari.

Efallai y cynhelir post mortem hyd yn oed os yw’r crwner yn penderfynu peidio ag ymchwilio ‘r farwolaeth.

Ni allwch wrthwynebu post-mortem crwner - ond os ydych wedi gofyn mae’n rhaid i’r crwner ddweud wrthych (a meddyg teulu’r unigolyn) pryd a ble y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal.

Ar ôl y post-mortem

Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd ar ôl iddynt gwblhau’r archwiliadau post-mortem ac nid oes angen archwiliadau pellach.

Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwest, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Form CN2’) at y cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth.

Bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Certificate of Coroner - form Cremation 6’ os yw’r corff i gael ei amlosgi.

Cael cymorth

Gallwch gael cymorth annibynnol rhad am ddim gan The Coroners’ Courts Support Service.

The Coroners’ Courts Support Service (Cymru a Lloegr)
Ffôn: 0300 111 2141
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 7pm
Dydd Sadwrn, 9am i 2pm
Gwybodaeth am gost galwadau