Trefnu yr angladd

Fel arfer, bydd angladd dim ond yn gallu digwydd ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, oni bai bod y farwolaeth wedi cael ei hadrodd i grwner.

Gallwch dalu trefnydd angladdau i drefnu’r angladd, neu gallwch ei drefnu eich hun.

Dylech wirio a wnaeth yr unigolyn a fu farw drefniadau ar gyfer eu hangladd – gall hyn gynnwys angladd rhagdaledig neu yswiriant bywyd. Gallwch wirio hyn gyda threfnwyr angladdau lleol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Trefnwyr angladdau

Bydd trefnydd angladdau yn darparu cyngor a chymorth wrth i chi drefnu angladd.

Os byddwch yn hurio trefnydd angladdau, gallwch ddewis un sy’n aelod o’r sefydliadau canlynol:

Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer – pan fyddwch yn dewis defnyddio’u gwasanaethau, dylai’r cwmni roi rhestr brisiau i chi.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydynt yn cynnig gwasanaethau angladd eu hunain. Mae rhai cynghorau lleol yn gwneud hyn ochr yn ochr â threfnwyr angladdau lleol, er enghraifft ar gyfer angladdau nad ydynt yn grefyddol.

Gall Cymdeithas Dyneiddwyr Prydeinig neu’r Sefydliad ar gyfer Angladdau Sifil hefyd helpu gydag angladdau nad ydynt yn grefyddol.

Trefnu’r angladd eich hun

Gallwch ddewis trefnu angladd eich hun pe dymunwch.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • prynu lleiniau claddu
  • cysylltu â gwasanaethau amlosgi
  • costau angladd

Amlosgiadau

Mae yna ffurflenni gwahanol i’w llenwi yn dibynnu ar ble y bu i’r unigolyn farw.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol neu’ch amlosgfa leol os ydych am gael cefnogaeth gyda’ch cais.

Costau angladd

Gall y costau hyn gynnwys y canlynol:

  • costau trefnydd angladdau
  • y pethau y bydd trefnydd angladdau yn talu amdanynt ar eich rhan (gelwir y costau hyn yn ‘alldaliadau’ neu’n ‘daliadau trydydd parti’). Enghreifftiau o’r costau hyn yw’r gost o gael rhywun i arwain y gwasanaeth, costau’r amlosgfa neu’r fynwent, neu hysbysiad papur newydd yn rhoi gwybod am y farwolaeth
  • costau claddu neu amlosgi gan yr awdurdod lleol

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i drefnwyr angladdau gyhoeddi rhestr brisiau ar gyfer y set safonol o gynhyrchion a gwasanaethau y maent yn eu cynnig.

Mae gan HelpwrArian wybodaeth ynghylch costau angladd, a sut i’w lleihau.

Talu am angladd

Gall angladd gael ei dalu amdano drwy’r dulliau hyn:

  • cynllun ariannol a oedd gan yr unigolyn, er enghraifft cynllun angladd rhagdaledig neu bolisi yswiriant
  • gennych chi, gan aelodau eraill o’r teulu, neu gan ffrindiau
  • gydag arian o ystad yr unigolyn (er enghraifft gyda chynilion) – gelwir y broses hon o gael mynediad at yr arian hwn yn gwneud cais am ‘grant cynrychiolaeth’ (gelwir weithiau yn ‘gwneud cais am brofiant’)

Gallwch wneud cais am Daliad Costau Angladd os ydych yn cael trafferth i dalu am yr angladd.

Gall Cronfa Angladdau Plant ar gyfer Lloegr (yn agor tudalen Saesneg) helpu i dalu am rai o gostau angladd plentyn o dan 18 oed, neu faban sy’n farw-anedig ar ôl y 24ain wythnos o feichiogrwydd.

Symud corff ar gyfer angladd dramor

Mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan grwner i symud corff ar gyfer angladd dramor. Mae’n rhaid gwneud hyn hyd yn oed os yw’r farwolaeth yn cael ei hymchwilio gan y crwner.

Gwnewch eich cais am ganiatâd o leiaf 4 diwrnod cyn yr ydych am i’r corff gael ei symud.

Dewch o hyd i grwner lleol gan ddefnyddio gwefan y Gymdeithas Crwneriaid i Gymru a Lloegr.

Mae prosesau gwahanol ar gyfer y canlynol: