Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor

Rhaid i chi gofrestru marwolaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle bu farw’r unigolyn.

Gallwch hefyd gofrestru’r farwolaeth gydag awdurdodau’r DU (yn agor tudalen Saesneg) os ydych chi eisiau cofnod o’r farwolaeth a gedwir yn y DU hefyd. Nid oes angen i chi wneud hyn os byddwch chi’n dod â’r corff adref i’w gladdu neu ei amlosgi - bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) yn cofnodi’r gladdedigaeth neu’r amlosgiad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae yna broses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhoi gwybod am y farwolaeth

Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn a fu farw:

  • fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  •  tramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu daith busnes)

Cysylltwch â swyddfa gofrestru (yn agor tudalen Saesneg) i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Byddant naill ai’n:

  • cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Efallai y bydd y swyddfa gofrestru yn gofyn i chi gael y dystysgrif marwolaeth dramor wedi’i gwirio cyn y gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Cysylltwch â’r llysgenhadaeth dramor berthnasol neu’r uchel gomisiwn yn y DU i gael y dystysgrif marwolaeth wedi’i gwirio.

Os na allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, rhowch wybod i sefydliadau am y farwolaeth eich hun

Dod â’r corff adref

I ddod â’r corff adref mae’n rhaid i chi:

  • gael cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth
  • cael caniatâd i symud y corff, a gyhoeddwyd gan grwner (neu swyddog cyfatebol) yn y wlad lle bu farw’r unigolyn
  • rhoi gwybod i grwner yng Nghymru neu Loegr os oedd achos y farwolaeth yn anhysbys, yn dreisgar neu’n annaturiol

Darllenwch wybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud.

Cysylltu â swyddfa gofrestru

Unwaith y bydd y corff gartref, ewch â’r dystysgrif marwolaeth i’r swyddfa gofrestru (yn agor tudalen Saesneg) yn yr ardal lle mae’r angladd yn cael ei gynnal.

Gan fod y farwolaeth eisoes wedi’i chofrestru dramor, bydd y cofrestrydd yn rhoi ‘tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru’ i chi. Rhowch hon i’r trefnydd angladdau fel y gall yr angladd fynd yn ei flaen.

Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, rhowch y dystysgrif yn ôl i’r cofrestrydd ar ôl i’r angladd gael ei gynnal. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 96 awr i’r angladd.

Pryd y bydd crwner yn gysylltiedig

Bydd crwner fel arfer yn cynnal cwest yng Nghymru neu Loegr os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu os oedd yn sydyn, yn dreisgar neu’n annaturiol.

Mae angen tystysgrif gan y crwner arnoch (ffurflen ‘Cremation 6’) os yw’r unigolyn i gael ei amlosgi.

Dod â llwch adref

Wrth adael gwlad gyda llwch dynol fel arfer bydd angen i chi ddangos:

  • y dystysgrif marwolaeth
  • y dystysgrif amlosgi

Mae gan bob gwlad ei rheolau ei hun ynghylch gadael gyda llwch dynol ac efallai y bydd gofynion ychwanegol. Darllenwch wybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau safonol pan fyddwch yn cyrraedd adref.

Cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddarganfod a allwch chi gario’r llwch fel bag llaw neu fel bag wedi’i gofrestru. Efallai y bydd yn gofyn i chi roi’r llwch mewn cynhwysydd anfetelaidd fel y gallant gael archwiliad pelydr-x.

Ni ddylech gael yr unigolyn wedi’i amlosgi dramor os ydych am i grwner gartref gynnal cwest i’w farwolaeth.