Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw
Beth i'w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth yn y ffordd arferol. Efallai y bydd rhaid i chi hefyd roi gwybod am farwolaeth plentyn i sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae gwahanol reolau ar gyfer cofrestru farw-enedigaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Budd-dal Plant
Mae angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os gwnaethoch optio allan am unrhyw reswm, fel y Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Gallwch ffonio Llinell Gymorth Profedigaeth CThEF neu ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant, gan nodi:
- eich enw llawn
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- enw llawn, dyddiad geni a dyddiad marwolaeth y plentyn a fu farw.
Darllenwch fwy am beth sy’n digwydd i daliadau Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw a sut i wneud hawliad os nad ydych wedi gwneud hynny eto.
Os yw plentyn yn farw-anedig
Ni allwch wneud hawliad am Fudd-dal Plant os yw’r plentyn yn farw-anedig.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Gallwch gael y grant o hyd os ydych yn gymwys. Mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i’r enedigaeth.
Absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth
Byddwch yn dal yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw eich baban:
- yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
- yn marw ar ôl cael ei eni
Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl statudol mewn profedigaeth os ydych yn gyflogedig a naill ai bod:
- bod eich plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed
- rydych yn cael baban farw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
Rhaid bod y farwolaeth neu’r enedigaeth farw-anedig wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020.
Taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Pan fydd plentyn yn marw, mae unrhyw arian yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant - gan gynnwys unrhyw daliadau gan y llywodraeth - fel arfer yn cael ei drosglwyddo i bwy bynnag sy’n etifeddu ystad y plentyn.