Ffurflenni a Chanllawiau Amlosgi
Ffurflenni ar gyfer gwneud cais am amlosgiad, gan gynnwys tystysgrifau a ffurflenni awdurdodi i feddygon, cyfarwyddwyr angladdau a rheolwyr amlosgfeydd.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Mae’r canllawiau amlosgi isod wedi’u diwygio i adlewyrchu’r newidiadau i Reoliadau Amlosgi (Cymru a Lloegr) 2008 a ddarparwyd gan Reoliadau Amlosgi (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) 2022 a ddaeth i rym ar 25 Mawrth 2022.
Nid yw’r ffurflenni wedi newid, fodd bynnag, mae’r dystysgrif amlosgi (ffurflen Amlosgi 5) bellach wedi’i dileu’n barhaol.
Bydd y Rheoliadau diwygiedig a’r canllawiau diwygiedig yn dod i rym o 25 Mawrth 2022 ymlaen.
Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflenni amlosgi
Mae’r dogfennau isod yn darparu canllawiau sy’n gymwys o 25 Mawrth 2022.