Tystysgrif crwner
Ffurflen i’w llenwi gan y crwner i ryddhau corff ar gyfer amlosgi.
Dogfennau
Manylion
Os oes ymchwiliad crwner wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal i achos y farwolaeth, nid oes gofyniad i’r tystysgrifau meddygol gael eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen caniatâd y crwner i’r amlosgi ddigwydd a bydd hyn yn cael ei ddarparu drwy lenwi’r ffurflen hon, Amlosgi 6.
Dylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer marwolaethau sy’n digwydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw lle bydd yr amlosgi’n digwydd yng Nghymru neu Loegr, pan mae’n berthnasol.
Dylid llwytho’r ffeil hon i lawr i’w llenwi gan ddefnyddio rhaglen fel Adobe Acrobat.