Ffurflen

Gwneud cais am brofiant drwy’r post os nad oes ewyllys: Ffurflen PA1A

Gwneud cais am lythyrau gweinyddu i reoli ystad y sawl a fu farw os nad ydynt wedi gadael ewyllys.

Dogfennau

Gwneud cais am brofiant ar-lein

Ymgeiswyr sy'n ddinasyddion: PA1A

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ymarferydd profiant: PA1A

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, nid oes rhaid ichi gyflwyno cais ar bapur hefyd.

Gallwch wneud cais am yr hawl gyfreithiol i reoli ystad unigolyn sydd wedi marw ac sydd heb adael ewyllys. Byddwch yn cael ‘llythyrau gweinyddu’ i brofi eich hawl gyfreithiol i reoli eu hystad.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais i fod yn weinyddwr yr ystad os mai chi yw’r etifeddwr sydd â’r hawl mwyaf, defnyddiwch y cyfrifiannell etifeddiaeth hwn i weithio sydd â’r hawl fwyaf.

Gallwch hefyd wneud cais fel ymarferydd profiant ar ran y gweinyddwr.

Ni allwch wneud cais os mai chi oedd partner y sawl a fu farw ond nad oeddech yn briod neu’n bartner sifil iddynt pan fuont farw. Nid oes gennych hawl awtomatig i unrhyw ran o’r ystad, oni bai eich bod yn gallu gwneud newidiadau i’r etifeddiaeth.

Gwneud cais fel gweinyddwr heb ymarferydd profiant

Os bu i’r ymadawedig farw cyn 1 Ionawr 2022

Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post.

Os bu farw’r ymadawedig ar ôl 1 Ionawr 2022 ond gwnaethoch lenwi ffurflenni treth etifeddiant IHT400 ac IHT421 neu IHT207

Os gwnaethoch lenwi ffurflenni treth etifeddiant oherwydd bod treth etifeddiant yn ddyledus neu oherwydd bod yr ystad yn ystad eithriedig ond bod yr ymadawedig wedi marw dramor, lawrlwythwch y ffurflen ‘ymgeiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post.

Os bu farw’r ymadawedig ar ôl 1 Ionawr 2022 a bod yr ystad yn ystad eithriedig

Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ddinasyddion gydag ystad eithriedig yn unig’ i wneud cais drwy’r post

Fel arall, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.

Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i wneud cais am brofiant heb gymorth gan ymarferydd profiant.

Gwneud cais fel ymarferydd profiant

Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ymarferwyr profiant yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais ar-lein os oes gennych chi neu’ch practis gyfrif MyHMCTS.

Penderfynu pwy sy’n etifeddu

Y gyfraith fydd yn penderfynu pwy sy’n etifeddu’r ystad os nad oes ewyllys. Penderfynu pwy sy’n etifeddu.

Cyn ichi wneud cais

Bydd arnoch angen:

Sut i wneud cais

I wneud cais am lythyrau gweinyddu:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen bapur cywir.

  2. Llenwch bob rhan sy’n berthnasol.

  3. Argraffwch y ffurflen.

  4. Llofnodwch a dyddiwch y cais.

  5. Dylech gynnwys siec gyda’ch cais (gweler Sut i dalu).

  6. Dychwelwch eich ffurflen ar ôl ei llenwi ac unrhyw ddogfennau atodol i:

Gwasanaeth Profiant GLlTEM
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE

Sut i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch dogfennau.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd

Gall gymryd hyd at 16 wythnos i brosesu eich cais os nad oes unrhyw oedi o ran derbyn eich dogfennau.

Cysylltwch â ni

Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 16 wythnos neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ni.

Llinell gymorth profiant
0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 20 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 April 2024 + show all updates
  1. Uploaded new versions of the Welsh forms.

  2. Updated the probate helpline opening times.

  3. Questions about receiving a letter from HMRC with a unique probate code (as part of the Inheritance Tax process) have been added to the forms.

  4. Updated phone line opening times

  5. The legal statement has been updated on both the citizen and practitioner forms. The practitioner form also has an updated QR code.

  6. Updated phone line opening times

  7. Updated April's bank holiday week opening times

  8. Added a Welsh version of the practitioner form

  9. Removed the pre-2022 citizen applicant only form.

  10. Updated opening times for the probate helpline

  11. Corrected small error where field for legal representatives firm wasn’t appearing on legal statement page of the form.

  12. Edited the contact us section - The Probate helpline is closed on Saturdays.

  13. Updated form page with new paper forms for applicants with and without an excepted estate

  14. Added information about how to pay.

  15. Helpline information updated.

  16. Revised PA1A form including equality and diversity questions.

  17. New form for legal practitioners published.

  18. First published.