Ffurflen

Gwneud cais am brofiant drwy’r post os oes ewyllys: Ffurflen PA1P

Gwneud cais am brofiant drwy’r post fel ysgutor sydd wedi’i enwi yn ewyllys unigolyn sydd wedi marw neu fel buddiolwr os nad oes unrhyw ysgutorion.

Dogfennau

Gwneud cais am brofiant ar-lein

Ymgeiswyr sy'n ddinasyddion: PA1P

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ar gyfer ymarferwyr profiant yn unig: PA1P

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, nid oes rhaid ichi gyflwyno cais ar bapur hefyd.

Gallwch wneud cais am yr hawl gyfreithiol i reoli ystad unigolyn sydd wedi marw ac wedi gadael ewyllys. Fe gewch ‘grant profiant’.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais os ydych naill ai:

  • yn ‘ysgutor’ - unigolyn a enwir yn ewyllys yr unigolyn sydd wedi marw
  • yn ymarferydd profiant sy’n cynrychioli’r ysgutor

Gwneud cais fel ysgutor heb ymarferydd profiant

Lawrlwythwch y ffurflen i ‘geiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r ffurflen hon i wneud cais os:

  • ydych yn fuddiolwr sydd wedi’i enwi yn yr ewyllys ac nid oes unrhyw ysgutorion sy’n gallu gwneud cais am y grant
  • nad oes unrhyw ysgutorion wedi’u henwi yn yr ewyllys

Gwneud cais fel ymarferydd profiant

Lawrlwythwch y ffurflen i ‘ymarferwyr profiant yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais ar-lein os oes gennych chi neu’ch cwmni gyfrif MyHMCTS.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi:

I wneud cais am y grant:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen bapur cywir.
  2. Llenwch bob rhan sy’n berthnasol.
  3. Cwblhewch y rhestr wirio.
  4. Argraffwch y ffurflen.
  5. Llofnodwch a dyddiwch y cais.
  6. Dylech gynnwys siec gyda’ch cais (gweler Sut i dalu).
  7. Anfonwch eich ffurflen wedi ei llenwi ac unrhyw ddogfennau i gefnogi’ch cais i:

HMCTS Probate
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE

Beth i’w gynnwys yn eich cais

Yr ewyllys wreiddiol

Bydd angen i chi gyflwyno’r ewyllys wreiddiol a’r dystysgrif marwolaeth swyddogol. Ni dderbynnir llungopïau o’r dogfennau hyn.

Yn ôl y gyfraith, bydd yr ewyllys wreiddiol yn dod yn ddogfen gyhoeddus pan fydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn rhoi’r grant i chi. Ni fydd yn cael ei dychwelyd i chi gan fod rhaid i GLlTEM ei storio yn y cofnodion cyhoeddus.

Sut i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch dogfennau.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd

Gall gymryd hyd at 16 wythnos i brosesu eich cais os byddwch yn anfon eich dogfennau’n brydlon.

Cysylltu â ni

Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 16 wythnos neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ni.

Llinell gymorth profiant
0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Updated the probate helpline opening times.

  2. Questions about receiving a letter from HMRC with a unique probate code (as part of the Inheritance Tax process) have been added to the Welsh forms.

  3. Questions about receiving a letter from HMRC with a unique probate code (as part of the Inheritance Tax process) have been added to the forms.

  4. Added a large print version of the Citizen applicants only: PA1P form.

  5. Updated helpline opening times

  6. Updated helpline opening times

  7. Updated April's bank holiday week opening times

  8. Added a welsh version of the practitioner form

  9. Removed the pre-2022 citizen applicant form only.

  10. Updated opening times for the probate helpline

  11. Removed the wrong address being shown on legal statement page of the form.

  12. Updated to show we're closed on Saturdays.

  13. Updated form page with new paper forms for applicants with and without an excepted estate

  14. Added information about how to pay.

  15. Updated helpline information.

  16. Revised form including equality and diversity questions.

  17. Probate helpline opening times amended.

  18. New legal practitioner form published.

  19. Revised application form.

  20. Revised PA1P.

  21. Revised Welsh PA1P uploaded.

  22. Removed the link to HMRC as it is no longer needed.

  23. First published.