Sut i wneud cais am brofiant drwy'r post os oes ewyllys
Diweddarwyd 27 Chwefror 2025
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os ydych naill ai:
- yn ‘ysgutor’ - unigolyn a enwir yn ewyllys yr unigolyn sydd wedi marw
- yn ymarferydd profiant sy’n cynrychioli’r ysgutor
Gwneud cais fel ysgutor heb ymarferydd profiant
Lawrlwythwch y ffurflen i ‘geiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r ffurflen hon i wneud cais os:
- ydych yn fuddiolwr sydd wedi’i enwi yn yr ewyllys ac nid oes unrhyw ysgutorion sy’n gallu gwneud cais am y grant
- nad oes unrhyw ysgutorion wedi’u henwi yn yr ewyllys
Gwneud cais fel ymarferydd profiant
Lawrlwythwch y ffurflen i ‘ymarferwyr profiant yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais ar-lein os oes gennych chi neu’ch cwmni gyfrif MyHMCTS.
Cyn i chi wneud cais
Bydd angen i chi:
-
ddweud wrth HMRC beth yw gwerth ystad yr unigolyn sydd wedi marw
-
talu unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus
I wneud cais am y grant:
- Lawrlwythwch y ffurflen bapur cywir.
- Llenwch bob rhan sy’n berthnasol.
- Cwblhewch y rhestr wirio.
- Argraffwch y ffurflen.
- Llofnodwch a dyddiwch y cais.
- Dylech gynnwys siec gyda’ch cais (gweler Sut i dalu).
- Anfonwch eich ffurflen wedi ei llenwi ac unrhyw ddogfennau i gefnogi’ch cais i:
HMCTS Probate
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE
Beth i’w gynnwys yn eich cais
Yr ewyllys wreiddiol
Bydd angen i chi gyflwyno’r ewyllys wreiddiol a’r dystysgrif marwolaeth swyddogol. Ni dderbynnir llungopïau o’r dogfennau hyn.
Yn ôl y gyfraith, bydd yr ewyllys wreiddiol yn dod yn ddogfen gyhoeddus pan fydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn rhoi’r grant i chi. Ni fydd yn cael ei dychwelyd i chi gan fod rhaid i GLlTEM ei storio yn y cofnodion cyhoeddus.
Sut i dalu
Mae’n rhaid i chi dalu drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch dogfennau.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd
Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais os byddwch yn anfon eich dogfennau’n brydlon.
Cysylltu â ni
Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 12 wythnos neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ni.
Llinell gymorth profiant
0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm