Ffurflen

Cais am gyfeirnod Treth Etifeddiant yn dilyn digwyddiad trethadwy (IHT122)

Gwnewch gais am gyfeirnod Treth Etifeddiant i fynd gyda’r ffurflen IHT100 os oes angen i chi dalu Treth Etifeddiant ar ymddiriedolaeth neu ar drosglwyddiad oes.

Dogfennau

Cais am gyfeirnod Treth Etifeddiant yn dilyn digwyddiad trethadwy (IHT122)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEM

Manylion

Gwnewch gais am gyfeirnod Treth Etifeddiant yn dilyn digwyddiad trethadwy os oes arnoch Dreth Etifeddiant ar ymddiriedolaeth neu ar drosglwyddiad oes.

Llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM.

Gwnewch gais am y cyfeirnod o leiaf 3 wythnos cyn i chi wneud taliad.

Llenwch ffurflen Treth Treth Etifeddiant: Cyfrif Treth Etifeddiant (IHT100) a’i hanfon i Gyllid a Thollau EM pan fyddwch chi wedi cael y cyfeirnod.

Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen

Os ydych chi’n defnyddio'r ffurflen bost a bod eich porwr yn un hŷn (er enghraifft, Internet Explorer 8), bydd angen i chi ei ddiweddaru i borwr gwahanol.

Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen i gyd cyn bod modd i chi ei hargraffu. Ni allwch chi gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly bydd angen i chi gasglu’ch holl wybodaeth cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 September 2022 + show all updates
  1. The form has been updated to say we no longer issues payslips and that you should send cheques separate from any forms or letters you send to HMRC.

  2. The Inheritance Tax return address has been updated and the 'Tell us who is applying' section has been removed.

  3. A Welsh language version of the IHT122 form is now available.

  4. First published.