Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Defnyddiwch yr offeryn hwn i gael gwybod a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 (6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026).
Os gwnaeth CThEF ysgrifennu atoch yn gofyn i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn y dyddiad cau ar y llythyr.
Ni fydd yr offeryn yn anfon eich manylion at Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Os oes gennych incwm ychwanegol, er enghraifft incwm o werthu pethau ar-lein neu o roi rhan o’ch eiddo ar osod, dylech wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am hyn.
Os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach, bydd angen i chi gysylltu â CThEF ac egluro hyn.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.