Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm ychwanegol

Gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm nad yw’n dod o’ch cyflogwr, neu nad yw eisoes wedi’i gynnwys yn eich Hunanasesiad os ydych yn gweithio i chi’ch hun.

Gall hyn gynnwys arian rydych yn ei ennill o weithgareddau megis:

  • gwerthu pethau, er enghraifft mewn arwerthiannau cist car neu ocsiynau, neu ar-lein
  • gwneud swyddi achlysurol megis garddio, dosbarthu bwyd neu warchod plant
  • codi tâl ar bobl eraill sy’n defnyddio’ch offer neu declynnau
  • rhoi eiddo neu ran o’ch cartref ar osod, gan gynnwys ar gyfer gwyliau (er enghraifft, drwy asiant neu ar-lein)
  • creu cynnwys ar-lein, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os oes gennych incwm o gynilion neu fuddsoddiadau, gwiriwch a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle hynny.

Os ydych wedi gwerthu eiddo, cyfranddaliadau neu asedion eraill am elw, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg).

Gwirio nawr