Gweithio i chi’ch hun

Os dechreuwch weithio i chi’ch hun, fe’ch ystyrir yn unig fasnachwr. Mae hyn yn golygu eich bod yn hunangyflogedig – hyd yn oed os nad ydych wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eto.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhedeg busnes

Mae’n debygol eich bod yn hunangyflogedig os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn rhedeg eich busnes drosoch chi eich hun ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei lwyddiant neu ei fethiant

  • mae gennych sawl cwsmer ar yr un pryd

  • rydych yn gallu penderfynu sut, ble a phryd rydych yn gwneud eich gwaith

  • rydych yn gallu cyflogi pobl eraill ar eich traul eich hun i’ch helpu neu i wneud y gwaith ar eich rhan

  • rydych yn darparu’r prif eitemau o offer i wneud eich gwaith

  • rydych yn gyfrifol am orffen unrhyw waith anfoddhaol yn eich amser eich hun

  • rydych yn codi pris sefydlog y cytunwyd arno am eich gwaith

  • rydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i wneud elw

Mae llawer o’r rhain hefyd yn berthnasol os ydych yn berchen ar gwmni cyfyngedig ond nad ydych yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig gan CThEF. Yn hytrach, rydych yn berchennog ac yn gyflogai i’ch cwmni.

Gallwch fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd – er enghraifft, os ydych yn gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd ac yn rhedeg eich busnes eich hun gyda’r hwyr.

Gallwch wirio a ydych yn hunangyflogedig:

Gwerthu nwyddau neu wasanaethau

Gallech gael eich ystyried yn fasnachwr os ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau. Os ydych yn masnachu, rydych yn hunangyflogedig.

Rydych yn debygol o fod yn masnachu os ydych yn:

  • gwerthu’n rheolaidd i wneud elw

  • gwneud eitemau i’w gwerthu am elw

  • gwerthu eitemau’n rheolaidd, naill ai ar-lein, mewn arwerthiannau cist car neu drwy fân hysbysebion

  • ennill comisiwn o werthu nwyddau ar ran pobl eraill

  • cael eich talu am wasanaeth rydych yn ei ddarparu

Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn gwerthu eitemau neu’n rhoi eiddo ar osod (er enghraifft drwy wefannau arwerthu neu apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Cysylltwch â CThEF am gyngor os nad ydych yn siŵr a ydych yn masnachu.

Cofrestru fel unigolyn hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n bosibl y bydd angen i chi sefydlu fel unig fasnachwr (yn Saesneg).

Ffyrdd eraill o weithio i chi’ch hun

Mae strwythurau busnes eraill heblaw am fod yn unig fasnachwr. Er enghraifft, gallwch:

Cael help gyda’ch busnes

Gallwch gael help gyda sefydlu neu dyfu’ch busnes (yn Saesneg), er enghraifft gydag ariannu’ch syniad.