Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn hunangyflogedig
- nid ydych yn hunangyflogedig ond rydych yn dal i anfon Ffurflen Dreth, er enghraifft oherwydd eich bod yn cael incwm o roi eiddo ar osod
Gallwch gyflwyno eich Ffurflen Dreth unrhyw bryd ar neu ar ôl 6 Ebrill, yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau neu byddwch yn cael cosb.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud y canlynol:
- bwrw golwg dros Ffurflenni Treth rydych wedi’u cyflwyno yn y gorffennol
- gwirio’ch manylion
- gwirio faint sydd arnoch
- argraffu’ch cyfrifiad treth
- cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur
Os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth y llynedd
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn cyflwyno am y tro cyntaf.
Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i ddysgu am y canlynol:
- sut i roi gwybod i CThEF bod angen i chi gwblhau Ffurflen Dreth am y tro cyntaf
- yr hyn i’w wneud os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad o’r blaen, i weld a oes angen i chi ailactifadu eich cyfrif
Efallai bydd eich Ffurflen Dreth yn cael ei hoedi os ydych yn ei chyflwyno heb ailactifadu cyfrif presennol.
Pryd na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein:
- ar gyfer partneriaeth
- ar gyfer ymddiriedolaeth nac ar gyfer ystâd
- os oeddech yn byw dramor fel person dibreswyl (yn agor tudalen Saesneg)
- i roi gwybod am ‘enillion ar ddigwyddiad trethadwy’ lluosog, er enghraifft o yswiriant bywyd
- os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaeth, os ydych yn danysgrifennwr Lloyd’s neu os ydych yn weinidog crefyddol
Yn lle hynny, defnyddiwch feddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg), neu gallwch lawrlwytho ffurflenni eraill neu ofyn amdanynt.
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth SA100 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021, neu ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, mae ffurflenni ar gael o’r Archifau Gwladol
Mewngofnodi i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Bydd hefyd angen eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) arnoch.
Nid oes rhaid i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n nes ymlaen os oes angen.
Profi pwy ydych er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn
Byddwch yn cael gwybod os oes angen profi pwy ydych pan fyddwch yn mewngofnodi. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n cynnwys defnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru.