Cael help gyda Hunanasesiad ar-lein
Gallwch gael help gyda Hunanasesiad drwy ddefnyddio taflenni cymorth ac offer ar-lein, gwylio fideos YouTube neu ofyn cwestiwn i’r cynorthwyydd digidol neu i’r fforymau cymunedol.
Fel arfer, mae cael help gan CThEF ar-lein yn gyflymach ac yn haws na’n ffonio ni.
Defnyddio offer ar-lein
Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
---|---|
Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad | Defnyddiwch yr offeryn hwn i’ch helpu i benderfynu a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, ac i gael gwybod beth i’w wneud nesaf |
Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad | Defnyddiwch yr offeryn hwn i gael gwybod sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig, os ydych mewn partneriaeth, neu os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth am reswm arall |
Gwirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb | Os ydych eisoes wedi cysylltu â CThEF, defnyddiwch yr offeryn hwn i gael gwybod pryd y gallwch ddisgwyl cael ateb |
Help gyda llenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae testun help ar gael drwy gydol y Ffurflen Dreth ar-lein i roi gwybodaeth ynghylch sut i lenwi pob adran. Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, gallwch ddarllen y nodiadau arweiniad i gael help a gwybodaeth.
Mae taflenni cymorth Hunanasesiad ar gael yn adran ffurflenni a thaflenni cymorth Hunanasesiad: gwybodaeth fanwl (yn agor tudalen Saesneg). Gallai’r taflenni cymorth hyn eich helpu i wneud y canlynol:
-
cael gwybodaeth ynghylch sut i lenwi pob adran o’ch Ffurflen Dreth
-
cyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
-
gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhadau penodol
-
cael gwybod sut i wneud hawliad am ryddhad yn eich Ffurflen Dreth
Gwylio fideos YouTube a gweminarau
Dilynwch yr arweiniad Diweddariadau drwy e-bost, fideos a gweminarau ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i wneud y canlynol:
-
cael at restr chwarae o fideos YouTube i’ch helpu i ddechrau gyda Hunanasesiad, llenwi’ch Ffurflen Dreth a deall eich bil treth
-
gwylio fideos sy’n esbonio adrannau gwahanol o Hunanasesiad
-
cofrestru ac ymuno â gweminarau byw, gofyn cwestiwn yn y sgwrs a chael ateb gan un o’n harbenigwyr
Rhoi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.
Gallai hyn ddigwydd oherwydd eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig, neu oherwydd nad oes angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad mwyach.
Ar ôl i chi wneud cais i roi’r gorau i Hunanasesiad, bydd eich cyfrif treth personol yn dangos dyddiad a statws eich cais.
Gofyn am help ar-lein
Gallwch ddefnyddio cynorthwyydd digidol CThEF os ydych am ofyn cwestiwn ynghylch Hunanasesiad.
Gallwch hefyd ofyn cwestiynau drwy’r dulliau canlynol:
-
fforwm cymunedol Hunanasesiad CThEF – gallwch bostio unrhyw gwestiynau sydd gennych, cael ateb a darllen cwestiynau tebyg sydd eisoes wedi’u hateb
-
Cymorth Cwsmeriaid CThEF ar X (Twitter) – gallwch ofyn gwestiynau cyffredin am Hunanasesiad
Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol yn eich neges.
Defnyddio’ch cyfrif ar-lein CThEF
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol neu’ch cyfrif treth busnes i wneud y canlynol:
-
llenwi’ch Ffurflen Dreth neu ei diwygio
-
gwirio faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
-
gwneud taliad neu hawlio ad-daliad
-
dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
Gallwch hefyd lawrlwytho ap CThEF ar ddyfais symudol (er enghraifft, eich ffôn neu dabled).
Cael cymorth ychwanegol
Os yw cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, darllenwch ein harweiniad ynghylch Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.
Mae CThEF yn ariannu sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol fel y gallant eich helpu chi os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch materion treth. Gallwch gysylltu â sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol (yn agor tudalen Saesneg) i gael help a chyngor ynghylch Harweiniad yn rhad ac am ddim.
Updates to this page
-
Added translation
-
Information on where to find Self Assessment helpsheets, and how they can help you with Self Assessment has been added. Information on what to do if you no longer need to send a tax return has been added. Information on how to get extra support with Self Assessment has been added.
-
Added translation