Dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Cewch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) pan fyddwch yn:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • sefydlu cwmni cyfyngedig

Mae ar ffurf rhif 10 digid. Efallai y cyfeirir ato fel ‘cyfeirnod treth’ yn unig.

Byddwch yn cael eich UTR drwy’r post 10 diwrnod ar ôl i chi gofrestru. Fel arfer, gallwch ei weld yn gynt yn eich Cyfrif Treth Personol neu yn ap CThEF.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Ble i ddod o hyd i’ch UTR

Mae’ch UTR i’w weld:

  • yn eich Cyfrif Treth Personol
  • yn ap CThEF
  • mewn Ffurflenni Treth blaenorol a dogfennau eraill gan CThEF (er enghraifft, hysbysiadau i gyflwyno Ffurflen Dreth neu nodynnau i’ch atgoffa i dalu)

Cael help gan CThEF

Os na allwch ddod o hyd i’ch UTR mewn unrhyw ddogfennau nac ar-lein, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Byddant yn anfon copi atoch drwy’r post — bydd hyn yn cymryd tua 10 diwrnod.

Os oes gennych gwmni cyfyngedig, gallwch ofyn am eich UTR Treth Gorfforaeth ar-lein. Bydd CThEF yn ei anfon i’r cyfeiriad busnes sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.