Ffurflenni a thaflenni gwybodaeth Hunanasesiad
Gallwch lawrlwytho ffurflenni ac arweiniad i’ch helpu i anfon eich Ffurflen Dreth naill ai ar-lein neu drwy’r post.
Rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau neu byddwch yn cael cosb.
Y brif Ffurflen Dreth (SA100)
Mae yna 2 ffordd wahanol o anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Gallwch wneud y canlynol:
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cael help
Gallwch wneud y canlynol:
- cael cyngor gan arbenigwr proffesiynol, megis cyfrifydd
- cysylltu â Chyllid a Thollau EM (CThEM)
- defnyddio’r nodiadau a thaflenni cymorth
Dylech lenwi’r Ffurflen Dreth Fer (SA200) dim ond os yw CThEM yn ei hanfon atoch. Ni allwch ei lawrlwytho, ond gallwch ddarllen y nodiadau arweiniad.
Adrannau ychwanegol
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi lenwi adrannau ychwanegol, a elwir yn ‘tudalennau atodol’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEM am y mathau hyn o incwm:
- cyflogeion neu gyfarwyddwyr cwmni - SA102
- hunangyflogaeth - SA103S neu SA103F
- partneriaethau busnes - SA104S neu SA104F
- Incwm o eiddo y DU - SA105
- incwm neu enillion tramor - SA106
- enillion cyfalaf - SA108
- rhai nad ydynt yn preswylio yn y DU neu sy’n breswylwyr deublyg - SA109
Gwiriwch y rhestr lawn o dudalennau atodol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn llenwi’r adrannau cywir os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth drwy’r post.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2014 i 2015 neu cyn hynny, mae ffurflenni ar gael o’r Archif Cenedlaethol.
Cyflwyno Ffurflen Dreth os nad ydych yn unigolyn
Mae ffurflenni arbennig yn bodoli os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer partneriaeth busnes neu gwmni dibreswyl, neu os ydych yn ymddiriedolwr.
| Mathau o Ffurflenni Treth | Ffurflenni a nodiadau arweiniad |
|---|---|
| Cwmnïau dibreswyl | SA700 |
| Partneriaeth | SA800 (gan gynnwys tudalennau atodol) |
| Ymddiriedolaeth ac ystâd | SA900 (gan gynnwys tudalennau atodol) |
| Ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn cofrestredig | SA970 |
Os oes angen help arnoch, gallwch:
- cael cyngor gan arbenigwr proffesiynol, megis cyfrifydd
- cysylltu â CThEM