Rhoi gwybod am eich incwm tramor

Fel arfer, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn breswylydd yn y DU gydag incwm tramor neu enillion cyfalaf. Ond mae rhywfaint o incwm tramor yn cael ei drethu’n wahanol.

Nid oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • eich unig incwm tramor yw difidendau

  • mae cyfanswm eich difidendau - gan gynnwys difidendau’r DU - yn llai na’r lwfans o ran difidendau, sef £500

  • nid oes gennych unrhyw incwm arall i roi gwybod amdano

Efallai y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn 6 Ebrill 2025, efallai y byddai rheolau gwahanol wedi bod yn berthnasol os oedd eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth pan gawsoch yr incwm. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Ar ôl i chi gofrestru, cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf.

Cofrestru nawr

Llenwi’ch Ffurflen Dreth

Defnyddiwch adran ‘tramor’ y Ffurflen Dreth i gofnodi eich incwm tramor neu eich enillion tramor.

Dylech gynnwys incwm sydd eisoes wedi cael ei drethu dramor i gael Rhyddhad Credyd Treth Tramor, os ydych yn gymwys.

Mae gan CThEF arweiniad ar sut i roi gwybod am eich incwm tramor neu enillion tramor yn eich Ffurflen Dreth yn ‘Nodiadau Tramor’.