Preswylio yn y DU a threth

Mae gan eich statws preswyl yn y DU effaith ar p’un a oes angen i chi dalu treth yn y DU ar eich incwm tramor.

Mae rhai sy’n ddibreswyl ond yn talu treth ar eu hincwm yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) - nid ydynt yn talu treth yn y DU ar eu hincwm tramor.

Mae preswylwyr fel arfer yn talu treth yn y DU ar eu holl incwm, boed hynny o’r DU neu dramor.

Canfod beth yw’ch statws preswylio

Mae p’un a ydych chi’n breswylydd yn y DU fel arfer yn dibynnu ar sawl diwrnod rydych chi’n ei dreulio yn y DU yn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Byddwch ond yn breswylydd yn y DU os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi’n bodloni un neu fwy o brofion awtomatig y DU neu’r prawf cysylltiadau digonol

  • nad ydych yn bodloni unrhyw un o’r profion tramor awtomatig

Fel arall, ni fyddwch yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth.

Profion y DU

Gallwch fod yn breswylydd o dan brofion awtomatig y DU os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch dreulio 183 diwrnod neu fwy yn y DU yn ystod y flwyddyn dreth

  • eich unig gartref oedd yn y DU am 91 diwrnod neu fwy yn olynol - ac mi wnaethoch ymweld â hi neu aros yno am o leiaf 30 diwrnod o’r flwyddyn dreth

  • gwnaethoch weithio’n llawn amser yn y DU am unrhyw gyfnod o 365 diwrnod ac roedd o leiaf un diwrnod o’r cyfnod hwnnw yn y flwyddyn dreth yr ydych yn ei gwirio

Efallai eich bod hefyd yn breswylydd o dan y prawf cysylltiadau digonol (yn agor tudalen Saesneg) os gwnaethoch chi dreulio nifer penodol o ddiwrnodau yn y DU a bod gennych gysylltiadau ychwanegol â’r DU, fel gwaith neu deulu.

Profion tramor

Fel arfer, rydych yn ddibreswyl yn awtomatig os yw naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch dreulio llai na 16 diwrnod yn y DU (neu 46 diwrnod os nad ydych wedi bod yn breswylydd yn y DU am y 3 blynedd dreth flaenorol)

  • rydych yn gweithio dramor yn llawn amser (o leiaf 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd) a gwnaethoch dreulio llai na 91 diwrnod yn y DU, ac na threuliwyd mwy na 30 ohonynt yn gweithio

Cael help i gyfrifo’ch statws preswylio

Os ydych chi’n dal yn ansicr am eich statws, gallwch ddefnyddio’r gwiriwr statws preswylio. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi a oeddech yn breswylydd yn y DU mewn unrhyw flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2016 ymlaen.

Efallai y gofynnir i chi am yr wybodaeth ganlynol am y flwyddyn rydych yn ei gwirio:

  • sawl diwrnod y gwnaethoch dreulio’n byw ac yn gweithio yn y DU a thramor

  • yn fras sawl awr yr wythnos ydych yn ei gweithio

  • y teulu sydd gennych chi yn y DU

  • manylion eich cartref yn y DU

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill i gael help

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

Eich statws preswylio pan fyddwch yn symud

Pan fyddwch yn symud i mewn neu allan o’r DU, bydd y flwyddyn dreth fel arfer yn cael ei rhannu’n 2 - rhan dibreswyl a rhan breswyl. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu treth yn y DU ar incwm tramor yn seiliedig ar yr amser yr oeddech yn byw yn y DU.

Gelwir hyn yn ‘driniaeth blwyddyn ranedig’.

Ni fyddwch yn cael triniaeth blwyddyn ranedig os ydych yn byw dramor am lai na blwyddyn dreth lawn cyn dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg). Mae angen i chi hefyd fodloni amodau eraill.

I gael gwybod a ydych chi’n gymwys ac i weld pa ‘achos’ triniaeth blwyddyn ranedig y bydd angen i chi sôn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:

Os yw’ch sefyllfa yn newid

Gall eich statws newid o un flwyddyn dreth i’r nesaf. Gwiriwch eich statws os bydd eich sefyllfa’n newid, er enghraifft:

  • rydych yn treulio mwy neu lai o amser yn y DU

  • rydych yn prynu neu’n gwerthu cartref yn y DU

  • rydych yn newid eich swydd

  • mae eich teulu’n symud i mewn neu allan o’r DU, neu’ch bod yn priodi, yn gwahanu neu mae gennych blant

Preswylio ac Enillion Cyfalaf

Rydych yn canfod eich statws preswylio at ddibenion enillion cyfalaf (er enghraifft, pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref) yn yr un ffordd ag eich incwm.

Mae’n rhaid i breswylydd yn y DU dalu treth ar ei enillion yn y DU a’i enillion tramor. Mae’n rhaid i bobl ddibreswyl dalu treth ar eu hincwm, ond fel arfer maent ond yn gorfod talu Treth Enillion Cyfalaf naill ai:

Preswylio cyn Ebrill 2013

Roedd rheolau gwahanol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer canfod eich statws preswylio cyn 6 Ebrill 2013.