Treth os byddwch yn dychwelyd i’r DU
Os byddwch yn dychwelyd i’r DU ar ôl byw dramor, byddwch yn cael eich ystyried yn breswylydd yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) eto. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu treth y DU ar y canlynol:
- eich incwm a’ch enillion yn y DU
- unrhyw incwm ac enillion tramor (yn agor tudalen Saesneg) – er hynny, efallai na fydd angen i chi hawlio Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg)
Byddwch yn cael eich ystyried yn breswylydd yn y DU os oeddech dramor am lai na blwyddyn dreth gyfan (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol). Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu treth y DU ar incwm tramor drwy gydol yr amser yr oeddech i ffwrdd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Yr hyn i’w wneud pan fyddwch yn ôl
Efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad, er enghraifft, os byddwch yn dechrau gweithio i chi eich hun neu os oes gennych incwm neu enillion eraill o’r DU neu dramor.
Nid oes angen i chi gofrestru os ydych yn gyflogai ac nad oes gennych incwm heb ei drethu i roi gwybod amdano.
Os byddwch yn dychwelyd i’r DU o fewn 5 mlynedd
Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar incwm neu enillion penodol (yn agor tudalen Saesneg) a wnaethoch pan nad oeddech yn breswylydd yn y DU. Nid yw hyn yn cynnwys cyflogau nac incwm arall o gyflogaeth.
Mae’r rheolau hyn (a elwir yn ‘gyfnodau dibreswyl dros dro’) yn gymwys os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn dychwelyd i’r DU o fewn 5 mlynedd ar ôl symud dramor (neu 5 mlwyddyn dreth lawn os gwnaethoch adael y DU cyn 6 Ebrill 2013)
- roeddech yn breswylydd yn y DU yn ystod o leiaf 4 o’r 7 mlwyddyn dreth cyn i chi symud dramor
Mae gan Bennod 6 o nodiadau arweiniad CThEF i’r Prawf Preswylio Statudol (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth am y canlynol:
- cyfnodau dibreswyl dros dro
- ar ba incwm ac enillion mae angen i chi dalu treth
Yswiriant Gwladol
Fel arfer, byddwch yn dechrau talu Yswiriant Gwladol eto os ydych yn gweithio yn y DU.
Os nad oeddech yn talu Yswiriant Gwladol pan oeddech dramor, gallwch wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol i weld sut gallai hyn fod wedi effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli.
Nid oes angen talu Yswiriant Gwladol bob tro, os nad ydych yn dychwelyd i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) yn barhaol.
Cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am symud pensiwn i’r DU.