Trosolwg

Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Incwm yn y DU ar eich incwm tramor, fel:

  • cyflog os ydych yn gweithio dramor

  • incwm o fuddsoddi dramor, er enghraifft difidendau a llog cynilion

  • incwm rhent ar eiddo tramor

  • incwm o bensiynau a gynhelir dramor

Incwm tramor yw unrhyw beth o’r tu allan i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu hystyried yn dramor.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Canfod a oes angen i chi dalu

Mae’r cwestiwn a oes angen i chi dalu yn dibynnu ar os ystyrir eich bod yn ‘breswylydd’ yn y DU at ddibenion treth.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, ni fydd angen i chi dalu treth yn y DU ar eich incwm tramor.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, byddwch fel arfer yn talu treth ar eich incwm tramor. Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi wneud hynny os ydych chi’n gymwys i gael Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn 6 Ebrill 2025, efallai na fu’n rhaid i chi dalu treth ar eich incwm tramor os oedd eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.

Rhoi gwybod am incwm tramor

Os oes angen i chi dalu treth, byddwch fel arfer yn rhoi gwybod am eich incwm tramor ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Ond mae rhywfaint o incwm tramor yn cael ei drethu’n wahanol.

Os yw’ch incwm yn cael ei drethu mewn mwy nag un wlad

Efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth os ydych wedi cael eich trethu mewn mwy nag un wlad.

Os nad ydych chi wedi talu treth ar yr incwm tramor eto, efallai y bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif preswylio (yn agor tudalen Saesneg) i brofi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad.