Gwneud cais am dystysgrif preswylio neu lythyr cadarnhad
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn unig fasnachwr, cwmni neu sefydliad i gael tystysgrif preswylio neu lythyr cadarnhad fel nad ydych yn talu treth ddwywaith ar incwm tramor.
Trosolwg
Gallwch wneud cais am dystysgrif preswylio i hawlio rhyddhad treth mewn gwlad arall os ydych yn talu treth ar eich incwm tramor yn y DU.
Mae tystysgrif yn helpu i gadarnhau i awdurdod treth tramor eich bod yn breswylydd treth yn y DU.
Gallwch wneud cais am dystysgrif os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn cael eich ystyried yn breswylydd yn y DU
- mae cytundeb trethiant dwbl gyda’r wlad dan sylw
Os nad oes gennych hawl i fuddion cytundeb o dan y cytundeb trethiant dwbl, ni fydd CThEF yn cyhoeddi tystysgrif.
Os ydych eisoes wedi talu’r dreth, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad.
Yr awdurdod tramor perthnasol sy’n penderfynu a ellir rhoi rhyddhad rhag treth tramor.
Mae’n bosibl y bydd angen llythyr cadarnhad eich bod yn preswylio arnoch yn lle tystysgrif os yw’r canlynol yn wir:
- nid oes cytundeb trethiant dwbl
- mae angen tystiolaeth o fan preswylio treth yn y DU arnoch at ddiben arall
Pwy all wneud cais
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud cais os ydych yn un o’r canlynol:
- unigolyn neu unig fasnachwr
- cwmni
- partneriaeth
- ymddiriedolaeth
- elusen
- corff cyhoeddus
- cynllun pensiwn
- cynllun buddsoddi cyfunol neu ymddiriedolaeth uned
Os ydych wedi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan, gall wneud cais ar eich rhan.
Ar gyfer ceisiadau swmp (er enghraifft, sawl gwlad neu endidau), mae’n bosibl y gofynnir i chi gwblhau ac uwchlwytho taenlen o fewn y gwasanaeth.
Gwasanaeth Busnesau Mawr
Mae’r Gwasanaeth Busnesau Mawr yn derbyn ceisiadau am dystysgrifau preswylio cyn diwedd cyfnod cyfrifyddu cwmni. Gelwir hyn yn archeb ymlaen llaw.
Dim ond ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr y mae archebion ymlaen llaw ar gael.
Er enghraifft, bydd cais a wneir ym mis Tachwedd am gyfnod cyfrifyddu sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr yn golygu bod y dystysgrif yn cael ei chreu ym mis Ionawr.
Os oes angen archeb ymlaen llaw arnoch, anfonwch eich cais drwy e-bost i’ch blwch post cyswllt Busnesau Mawr arferol.
Cynllun pensiwn cofrestredig
Os yw rhywun yn gwneud cais ar eich rhan, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen APSS146C a ffurflen APSS146D.
Anfonwch y ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Dim ond unwaith sydd angen i chi eu hanfon.
Nid oes angen i chi anfon y ffurflenni hyn os yw’r canlynol yn wir:
- mae awdurdodiad trydydd parti eisoes wedi’i roi ar ffurflen APSS146A a ffurflen APSS146B ar gyfer ad-daliadau treth y DU
- mae wedi’i gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod hefyd wedi’u hawdurdodi i ddelio â cheisiadau am dystysgrif preswylio
Os oes unrhyw newidiadau i’r bobl sydd wedi’u hawdurdodi i drin ceisiadau am dystysgrif preswylio, bydd angen i chi anfon ffurflenni APSS146C ac APSS146D o hyd.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrif preswylio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am y canlynol i CThEF:
- os oes angen tystysgrif arnoch i hawlio o dan gytundeb trethiant dwbl rhwng y DU a gwlad arall
- y cytundeb trethiant dwbl rydych yn hawlio o dan
- y wlad y mae angen y dystysgrif ar ei chyfer
- y math o incwm dan sylw
- y cyfnod y mae angen y dystysgrif arnoch ar ei gyfer — ni allwch ofyn am ddyddiad yn y dyfodol
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gadarnhau hefyd, lle mae’r cytuniad yn ei gwneud yn ofynnol, bod y canlynol yn wir:
- chi yw perchennog llesiannol yr incwm
- rydych yn destun treth y DU ar yr holl incwm rydych yn hawlio amdano
Os nad ydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth eto
Os oes angen tystysgrif preswylio arnoch am gyfnod ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013 ac nad ydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y cyfnod hwnnw eto, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF:
- faint o ddiwrnodau a dreulioch yn y DU yn ystod y flwyddyn dreth neu’r blynyddoedd y mae angen y dystysgrif preswylio arnoch
- pam eich bod yn credu eich bod yn breswylydd yn y DU o dan y Prawf Preswylio Statudol (SRT), os treulioch chi lai na 183 diwrnod yn y DU
- eich dyddiadau cyrraedd a gadael, ac os yw’n berthnasol y dyddiad y dechreuoch neu y peidiodd â bod yn breswylydd yn ôl rheolau blwyddyn hollt y Prawf Preswyliad Statudol
Os ydych yn gwneud cais am gwmni sydd newydd ei ymgorffori
Os nad yw’ch cwmni wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad Treth Gorfforaeth eto, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:
- enw a chyfeiriad pob cyfarwyddwr a chyfranddaliwr
- y rheswm pam mae’r cwmni’n credu ei fod yn breswylydd treth yn y DU — darllenwch fwy am fan breswylio’r cwmni yn pennod INTM120030 o’r llawlyfr Rhyngwladol
Os yw’r wlad arall yn rhoi ffurflen i chi ardystio’r man preswylio
Uwchlwythwch neu anfonwch hwn ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol gyda’ch cais.
Gwneud cais am dystysgrif preswylio neu lythyr cadarnhad
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- manylion mewngofnodi — os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu
- eich cyfeiriad e-bost — cewch god cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Os ydych yn asiant
Bydd angen i ti fewngofnodi gyda’r manylion mewngofnodi rwyt ti’n eu defnyddio i fynediad i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl yn nes ymlaen.
Os na allwch wneud cais ar-lein
Gallwch wneud cais drwy’r post drwy anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn yr adran ‘Yr hyn y bydd ei angen arnoch’ i’r cyfeiriad ar gyfer eich math o sefydliad.
Unigolion, unig fasnachwyr a phartneriaethau
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom
Cwmnïau a chyrff cyhoeddus
Gwasanaethau Treth Gorfforaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1AX
United Kingdom
Pensiynau, Ymddiriedolaethau ac Elusennau
Tystysgrif Preswylio WACSI
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1AJ
United Kingdom
Cynlluniau Buddsoddi Cyfunol
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog/Busnesau o Faint Canolig
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1HT
United Kingdom
Cynlluniau Pensiwn Yswiriedig
Busnes Mawr yr Alban a Gogledd Iwerddon
S1754
Newcastle
Y Deyrnas Unedig
United Kingdom
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd CThEF yn gwirio’ch gwybodaeth ac, os ydych yn gymwys, yn cyhoeddi tystysgrif preswylio neu lythyr cadarnhad.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch pennod INTM162000 o’r Llawlyfr Rhyngwladol i gael gwybod mwy am y canlynol:
- tystysgrifau preswylio
- llythyrau cadarnhad
Updates to this page
-
A link to the new online form and information about who can apply and what happens after you apply has been added.
-
Contact information for companies that need a pre-order has been updated.
-
Guidance for agents applying for a certificate of residence has been updated to clarify that agents need to sign in to the online service with their agent services account.
-
The address for non-registered pension schemes and trusts has been updated.
-
Guidance for companies applying for a certificate of residence has been updated.
-
Links to the RES1 form have been updated to the online RES1 form.
-
How to apply for a certificate of residence for public bodies has been updated.
-
This content has been updated with the latest information about applying for a certificate of residence.
-
BSI address has changed.
-
First published.