Os ydych chi’n cael eich trethu ddwywaith

Efallai y cewch eich trethu ar eich incwm tramor gan y DU a’r wlad o le y daeth yr incwm.

Fel arfer, gallwch hawlio rhyddhad treth i gael rhywfaint o’r dreth yn ôl, neu’r holl dreth yn ôl. Mae sut y byddwch yn hawlio yn dibynnu ar p’un a yw’ch incwm tramor wedi’i drethu’n barod.

Mae ffordd wahanol o hawlio rhyddhad os ydych yn ddi-breswyl gydag incwm yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Gwneud cais am ryddhad treth cyn i chi gael eich trethu ar incwm tramor

Mae’n rhaid i chi wneud cais am ryddhad treth yn y wlad y daw eich incwm ohoni os:

  • yw’r incwm wedi’i esemptio rhag treth dramor ond ei fod yn cael ei drethu yn y DU (er enghraifft, y rhan fwyaf o bensiynau)

  • yw’n ofynnol dan gytundeb trethiant dwbl y wlad honno

Gofynnwch i’r awdurdod treth tramor am ffurflen, neu gwnewch gais drwy lythyr os nad oes ganddynt un.

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi brofi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad treth drwy naill ai:

Ar ôl i chi gael tystiolaeth, anfonwch y ffurflen neu’r llythyr at yr awdurdod treth tramor.

Os ydych eisoes wedi talu treth ar eich incwm tramor

Fel arfer, gallwch hawlio Rhyddhad Credyd Treth Tramor pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich incwm tramor ar eich Ffurflen Dreth.

Mae faint o ryddhad a gewch yn dibynnu ar p’un a oes gan y DU ‘gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg)’ gyda’r wlad o le daeth eich incwm ohoni.

Fel arfer, byddwch yn dal i gael rhyddhad hyd yn oed os nad oes cytundeb, oni bai nad yw’r dreth dramor yn cyfateb i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf yn y DU.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu gael help treth proffesiynol os nad ydych chi’n siŵr, neu os oes angen help arnoch chi gyda rhyddhad trethiant dwbl.

Yr hyn y byddwch yn ei gael yn ôl

Mae’n bosib na fydd swm llawn y dreth dramor y gwnaethoch ei thalu yn cael ei had-dalu i chi. Byddwch yn cael llai yn ôl os bydd un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

Mae gan CThEF arweiniad ar sut mae Rhyddhad Credyd Treth Tramor yn cael ei gyfrifo, gan gynnwys y rheolau llog a difidendau arbennig yn ‘Nodiadau tramor’.

Ni allwch hawlio’r rhyddhad hwn os yw cytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) y DU yn ei gwneud yn ofynnol i chi hawlio treth yn ôl o’r wlad y daeth eich incwm ohoni.

Treth Enillion Cyfalaf

Fel arfer, byddwch yn talu treth yn y wlad lle rydych yn byw ac wedi’ch esemptio rhag treth yn y wlad lle byddwch yn gwneud yr enillion cyfalaf. Fel arfer, nid oes rhaid i chi wneud hawliad.

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo preswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os nad ydych yn preswylydd yn y DU.

Pryd i hawlio rhyddhad

Mae yna wahanol reolau os daw’ch enillion o ased sydd naill ai:

  • ni ellir tynnu’r ased allan o’r wlad, megis tir neu dŷ

  • rydych yn ei defnyddio ar gyfer busnes yn y wlad honno

Bydd angen i chi dalu treth yn y ddwy wlad a chael rhyddhad gan y DU.

Preswylwyr deuol

Gallwch fod yn breswylydd yn y DU ac mewn gwlad arall. Bydd angen i chi wirio rheolau preswylio’r wlad arall a phryd mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ac yn dod i ben.

Mae gan CThEF arweiniad ar gyfer hawlio rhyddhad trethiant dwbl os ydych chi’n breswylydd deuol (yn agor tudalen Saesneg).