Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol
Cyfraddau a lwfansau cyfredol
Bydd faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ym mhob blwyddyn dreth yn dibynnu ar:
- faint o’ch incwm sydd dros eich Lwfans Personol
- faint o’ch incwm sydd ym mhob haen dreth
Mae rhywfaint o incwm yn rhydd o dreth.
Y flwyddyn dreth bresennol yw o 6 Ebrill 2023 hyd at 5 Ebrill 2024.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Eich Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth
£12,570 yw’r Lwfans Personol safonol, sef faint o incwm fyddwch chi ddim yn gorfod talu treth arno.
Efallai fod eich Lwfans Personol yn uwch os ydych yn hawlio Lwfans Priodasol neu Lwfans Person Dall. Mae’n llai os yw eich incwm dros £100,000.
Cyfraddau a haenau Treth Incwm
Mae’r tabl yn dangos y cyfraddau treth y byddwch yn eu talu ym mhob haen os oes gennych Lwfans Personol safonol o £12,570.
Mae haenau treth incwm yn wahanol os ydych yn byw yn yr Alban (yn Saesneg).
Haen | Incwm trethadwy | Cyfradd dreth |
---|---|---|
Lwfans Personol | Hyd at £12,570 | 0% |
Cyfradd sylfaenol | £12,571 i £50,270 | 20% |
Cyfradd uwch | £50,271 i £125,140 | 40% |
Cyfradd ychwanegol | dros £125,140 | 45% |
Gallwch hefyd weld y cyfraddau a’r haenau heb y Lwfans Personol (yn Saesneg). Chewch chi ddim Lwfans Personol ar incwm trethadwy dros £125,140.
Os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn
Gwiriwch eich Treth Incwm i weld:
- eich Lwfans Personol a’ch cod treth
- faint o dreth rydych wedi’i thalu yn y flwyddyn dreth gyfredol
- faint rydych yn debygol o’i thalu am weddill y flwyddyn
Lwfansau eraill
Mae gennych lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
- llog o gynilion
- incwm o ddifidendau, os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni
Efallai fod gennych hefyd lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
- eich £1,000 cyntaf o incwm a gewch o ganlyniad i hunangyflogaeth – dyma eich ‘lwfans masnachu’
- eich £1,000 cyntaf o incwm a gewch o eiddo y rhowch ar osod (yn Saesneg) (oni bai eich bod yn defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell (yn Saesneg))
Gallwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer y lwfansau masnachu ac eiddo (yn Saesneg).
Rydych yn talu treth ar unrhyw log, difidendau neu incwm sydd dros eich lwfansau.
Talu llai o Dreth Incwm
Efallai byddwch yn gallu hawlio rhyddhad Treth Incwm os ydych yn gymwys ar gyfer hynny.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Priodasol i leihau treth eich partner os yw eich incwm chi’n llai na’r Lwfans Personol safonol.
Os nad ydych yn hawlio Lwfans Priodasol a chawsoch chi neu’ch partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Pâr Priod (yn Saesneg).