Treth ar log ar gynilion

Neidio i gynnwys y canllaw

Faint o dreth rydych yn ei thalu

Gall y rhan fwyaf o bobl ennill ychydig o log ar eu cynilion heb dalu treth.

Mae’ch lwfansau i ennill llog cyn i chi orfod talu treth arno yn cynnwys:

  • eich Lwfans Personol
  • cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion
  • Lwfans Cynilion Personol

Rydych yn cael y lwfansau hyn bob blwyddyn dreth. Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm arall. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Lwfans Personol

Gallwch ddefnyddio’ch Lwfans Personol i ennill llog sy’n rhydd o dreth os nad ydych wedi defnyddio’r cwbl ar eich cyflog, eich pensiwn neu ar unrhyw incwm arall.

Cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion

Gallwch hefyd, o bosibl, gael hyd at £5,000 o log sy’n rhydd o dreth. Dyma eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion.

Y mwyaf rydych yn eich ennill o incwm arall (er enghraifft, eich cyflog neu bensiwn), y lleiaf y bydd eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion.

Os yw eich incwm arall yn £17,570 neu’n fwy

Nid ydych yn gymwys ar gyfer y gyfradd gychwynnol hon ar gyfer cynilion os yw eich incwm arall yn £17,570 neu’n fwy.

Os yw eich incwm arall yn llai na £17,570

Mae eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion ar gael hyd at uchafswm o £5,000. Mae pob £1 o incwm arall dros eich Lwfans Personol yn gostwng eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion o £1.

Enghraifft

Rydych yn ennill cyflog o £16,000 ac rydych yn cael £200 o log ar eich cynilion.

Eich Lwfans Personol yw £12,570. Caiff ei ddefnyddio gan y £12,570 cyntaf o’ch cyflog.

Mae’r £3,430 sy’n weddill o’ch cyflog (£16,000 llai £12,570) yn gostwng eich cyfradd gychwynnol ar eich cynilion o £3,430.

Eich cyfradd gychwynnol ar y cynilion sy’n weddill yw £1,570 (£5,000 llai £3,430). Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu treth ar eich llog o gynilion gwerth £200.

Lwfans Cynilion Personol

Gallwch hefyd, o bosibl, gael hyd at £1,000 o log sy’n rhydd o dreth, yn dibynnu ar eich band Treth Incwm (yn Saesneg). Dyma eich Lwfans Cynilion Personol.

I gyfrifo’ch band treth, ychwanegwch yr holl log rydych wedi’i gael at eich incwm arall.

Band Treth Incwm Lwfans Cynilion Personol
Cyfradd sylfaenol £1,000
Cyfradd uwch £500
Cyfradd ychwanegol £0

Llog a gaiff ei gwmpasu gan eich lwfans

Mae’ch lwfans yn berthnasol i log o’r canlynol:

  • cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
  • cyfrifon cynilo ac undeb credyd
  • ymddiriedolaethau unedol, ymddiriedolaethau buddsoddi a chwmnïau buddsoddi penagored
  • benthyca cymar-i-gymar
  • cronfeydd ymddiriedolaeth
  • yswiriant diogelu taliadau (PPI)
  • bondiau gan gwmnïau neu lywodraeth
  • taliadau blwydd-dal bywyd
  • rhai contractau yswiriant bywyd

Nid yw cynilion mewn cyfrifon sy’n rhydd o dreth fel Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) a rhai cyfrifon Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cyfrif tuag at eich lwfans.

Mae gwahanol reolau yn berthnasol i dreth ar gynilion tramor (yn Saesneg) a chyfrifon plant (yn Saesneg).

Llog ar gyfrifon ar y cyd

Os oes gennych gyfrif ar y cyd, bydd llog yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng deiliaid y cyfrif. Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os ydych yn credu y dylai gael ei rannu’n wahanol i hynny.

Os ewch dros eich lwfans

Rydych yn talu treth ar unrhyw log dros eich lwfans ar eich cyfradd arferol o Dreth Incwm.

Os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn, bydd CThEF yn newid eich cod treth er mwyn i chi dalu’r dreth yn awtomatig. Er mwyn penderfynu ar eich cod treth, bydd CThEF yn amcangyfrif faint o log y byddwch yn ei gael ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy edrych ar faint a gawsoch y flwyddyn flaenorol.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, rhowch wybod am unrhyw log a enillwyd ar gynilion arni.

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os yw eich cyflog o gynilion a buddsoddiadau dros £10,000. Gwiriwch a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.

Os nad ydych yn gyflogedig, yn cael pensiwn neu os nad ydych yn llenwi Ffurflen dreth Hunanasesiad, bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn rhoi gwybod i CThEF faint o log a gawsoch ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu treth a sut i’w thalu.

Os ydych eisoes wedi talu treth ar eich incwm o gynilion

Gallwch adennill y dreth a dalwyd ar y eich llog ar gynilion os oedd yn is na’ch lwfans. Mae’n rhaid i chi adennill eich treth o fewn 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.

Gallwch hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn llenwi un. Os na, llenwch ffurflen R40 a’i hanfon at CThEF.

Fel arfer, mae’n cymryd 6 wythnos i gael y dreth yn ôl.