Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Trosolwg
Gallwch gynilo’n ddi-dreth gyda Chyfrifon Cynilo Unigol (cyfrifon ISA).
Ym mlwyddyn dreth 2026 i 2027, y swm mwyaf y gallwch ei arbed mewn cyfrif ISA yw £20,000
Mae 4 math o ISA:
- ISA arian parod
- ISA stociau a chyfranddaliadau
- ISA cyllid arloesol
- ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pwy sy’n cael agor ISA
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i agor ISA. Os ydych yn agor ISA gydol oes, mae’n rhaid i chi hefyd fod o dan 40 oed.
Mae’n rhaid i chi hefyd fod naill ai:
- yn breswyl yn y DU
- yn aelod o’r lluoedd arfog neu weithiwr y Goron (er enghraifft Gwasanaeth Sifil diplomyddol neu dramor) neu ei briod neu bartner sifil os nad ydych yn byw yn y DU
Gallwch ddod o hyd i’ch statws preswylio os ydych yn ansicr – darllenwch y dudalen preswylio yn y DU a threthi i gael rhagor o fanylion.
Does dim modd i chi ddal ISA gyda rhywun arall.
Gallwch gael ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer plant dan 18 oed.