Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Etifeddu ISA gan eich priod neu bartner sifil
Mae cynilion ISA yn mynd i’r buddiolwr a enwir yn yr ewyllys.
Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw gallwch etifeddu ei lwfans ISA.
Os bu farw’ch priod neu bartner sifil rhwng 3 Rhagfyr 2014 a 5 Ebrill 2018
Daeth ei ISA i ben ar ddyddiad ei marwolaeth. Bydd buddsoddiadau ISAs yn ffurfio rhan o’i ystâd/hystâd at ddibenion Treth Etifeddiant.
Gellir cyfarwyddo ei ddarparwr ISA i werthu’r buddsoddiadau a naill ai:
- talu’r enillion i weinyddwr neu fuddiolwr yr ystâd
- trosglwyddo’r buddsoddiadau’n uniongyrchol i’r buddiolwr
Gallwch etifeddu ei lwfans ISA. Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm sy’n rhydd o dreth hyd at y gwerth a oedd ganddo/ganddi yn ei ISA pan fu farw.
Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.
Ni allwch etifeddu lwfans ISA rhywun os bu farw cyn 3 Rhagfyr 2014.
Os bu farw eich priod neu bartner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018
Bydd ei ISA yn dod i ben pan fydd un o’r canlynol yn digwydd:
- bydd yr ymddiriedolwr yn ei gau
- bydd gweinyddu’r ystâd wedi’i gwblhau
- 3 blynedd ar ôl i’ch priod neu bartner sifil farw
Bydd ei ISA yn dod yn ‘gyfrif buddsoddwr sydd wedi marw sy’n parhau’. Mae hyn yn golygu y bydd buddsoddiadau ISA yn ffurfio rhan o’i ystâd ond yn aros yn ddi-dreth hyd nes y caiff ei gau.
Ni ellir gwneud unrhyw daliadau newydd i’r ISA.
Yn ogystal â’ch lwfans ISA arferol, gallwch ychwanegu swm sy’n rhydd o dreth hyd at naill ai:
- y gwerth a oedd ganddo yn ei ISA pan fu farw
- gwerth ei ISA pan fydd yn cael ei gau
Cysylltwch â’ch darparwr ISA neu ddarparwr ISA eich priod neu bartner sifil i gael y manylion.