Os byddwch yn symud dramor

Os byddwch yn agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn y DU ac yna’n symud dramor, chewch chi ddim rhoi arian ynddo ar ôl y flwyddyn dreth pan fyddwch yn symud (oni bai eich bod yn un o weithwyr y Goron sy’n gweithio dramor neu’n briod neu bartner sifil i unigolyn o’r fath).

Rhaid i chi roi gwybod i ddarparwr eich ISA cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i breswylio yn y DU.

Fodd bynnag, gallwch gadw’ch ISA ar agor a byddwch yn dal i gael rhyddhad treth y DU ar yr arian a’r buddsoddiadau sy’n cael eu dal ynddo.

Gallwch drosglwyddo ISA i ddarparwr arall hyd yn oed os nad ydych yn byw yn y DU.

Gallwch dalu arian i’ch ISA eto os byddwch yn dychwelyd ac yn breswylydd yn y DU (yn amodol ar y lwfans ISA blynyddol).