Tynnu’ch arian allan

Gallwch dynnu eich arian o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) unrhyw bryd, heb golli unrhyw fuddion treth. Edrychwch ar delerau eich ISA i weld a oes unrhyw reolau neu daliadau am dynnu arian allan.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer tynnu eich arian allan o ISA Gydol Oes (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw eich ISA yn ‘hyblyg’, gallwch dynnu arian allan ac yna ei roi yn ôl i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth heb leihau eich lwfans blwyddyn gyfredol. Bydd eich darparwr yn gallu dweud wrthych a yw eich ISA yn hyblyg.

Enghraifft
£20,000 yw eich lwfans ac rydych yn rhoi £10,000 mewn ISA yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025. Rydych chi wedyn yn tynnu £3,000 allan.

Dyma faint gallwch ei roi i mewn yn ystod yr un flwyddyn dreth:

  • £13,000 os yw eich ISA yn hyblyg (y lwfans sy’n weddill sef £10,000 a’r £3,000 roeddech wedi’i dynnu allan)
  • £10,000 os nad yw eich ISA yn hyblyg (dim ond y lwfans sy’n weddill)