Trosglwyddo eich ISA

Gallwch drosglwyddo’r cyfan neu ran o’ch Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) o un darparwr i’r llall ar unrhyw adeg.

Os ydych am drosglwyddo arian rydych wedi’i fuddsoddi mewn ISA yn ystod y flwyddyn gyfredol, rhaid i chi drosglwyddo’r cyfan ohono.

Ar gyfer arian rydych wedi’i fuddsoddi mewn blynyddoedd blaenorol, gallwch ddewis trosglwyddo rhywfaint o’ch cynilion neu’r cyfan.

Mae cyfyngiadau ar y trosglwyddiadau y gallwch eu gwneud os oes gennych ISA Gydol Oes (yn agor tudalen Saesneg) neu ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfyngiadau ar yr hyn gallwch ei drosglwyddo

Gallwch drosglwyddo arian o’ch ISA cyllid arloesol i ddarparwr arall - ond efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo buddsoddiadau eraill ohono.

Holwch eich darparwr am unrhyw gyfyngiadau sydd ganddo ar drosglwyddo ISAs. Efallai bydd hefyd yn gwneud i chi dalu ffi.

Sut mae trosglwyddo eich ISA

I newid darparwr, cysylltwch â’r darparwr ISA rydych am symud ato a llenwi ffurflen drosglwyddo ISA i symud eich cyfrif. Os byddwch yn tynnu’r arian allan heb wneud hyn, ni fyddwch yn cael ail-fuddsoddi’r rhan honno o’ch lwfans di-dreth eto.

Dyddiadau cau a chwynion

Ni ddylai trosglwyddo ISA gymryd mwy na:

  • 15 diwrnod gwaith ar gyfer trosglwyddiadau rhwng ISAs arian
  • 30 diwrnod calendr ar gyfer mathau eraill o drosglwyddo

Os ydych eisiau trosglwyddo buddsoddiadau sy’n cael eu dal mewn ISA cyllid arloesol, holwch eich darparwr faint o amser bydd hynny’n ei gymryd.

Os bydd y trosglwyddo’n cymryd mwy o amser nag y dylai, cysylltwch â’ch darparwr ISA.

Os ydych yn anhapus gyda’r ymateb, gallwch godi’r mater gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffôn (ar gyfer llinellau tir): 0800 023 4567
Ffôn (ar gyfer ffonau symudol): 0300 123 9123
Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:00 i 20:00
Dydd Sadwrn, 09:00 i 13:00
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau