Hawlio ad-daliad o Dreth Incwm a ddidynnwyd o gynilion a buddsoddiadau (R40)
Gwnewch gais am ad-daliad o dreth ar log eich cynilion gan ddefnyddio ffurflen R40 os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gwnewch gais am ad-daliad ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os ydych yn bodloni unrhyw un o feini prawf Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth. Peidiwch â chyflwyno ffurflen R40 am ad-daliad.
Os ydych chi (neu’r person rydych chi’n hawlio amdano) yn byw y tu allan i’r DU, gallwch hawlio lwfansau personol ac ad-daliadau treth os ydych chi’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).
Hawliadau Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)
Os ydych am hawlio treth yn ôl ar log a dalwyd ar hawliad PPI, mae angen i chi anfon dogfen atom sy’n dangos manylion eich hawliad PPI, gan gynnwys:
- llog gros
- treth a ddidynnwyd o’r llog
- llog net
Gall y ddogfen hon fod naill ai ar ffurf:
- y llythyr ymateb terfynol gan y cwmni a wnaeth eich talu
- tystysgrif gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu i gadarnhau faint o dreth a ddidynnwyd o’r ad-daliad
Os nad oes gennych unrhyw un o’r rhain, gallwch ofyn amdanynt gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu.
Os yw’ch hawliad ar gyfer unrhyw fath arall o ad-daliad, peidiwch ag anfon atom unrhyw gofnodion personol, neu dystysgrifau treth neu dalebau gyda’ch ffurflen. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen y rhain arnom.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol a’r 4 blynedd flaenorol. Mae angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.
I gyflwyno cais ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen bost. Os ydych yn gwneud cais ar ran plentyn dan oed, mae angen i chi gynnwys ei gyfeiriad preswyl ar y ffurflen.
Darllenwch
i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrîn) ac angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.
Gwneud gais am ad-daliad ar-lein
Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
-
defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich hawliad.
Gwneud cais am ad-daliad drwy’r post
Bydd CThEF yn derbyn llofnod digidol ar y ffurflen argraffu ac anfon R40. Gallai hwn gael ei lofnodi ar sgrin dyfais ddigidol, neu ei ddangos mewn ffont wedi’i deipio â bysellfwrdd.
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llenwch y ffurflen â llaw.
Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall
O 30 Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, mae rhagor o wybodaeth ar gael am beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE (Talu Wrth Ennill) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 January 2024 + show all updates
-
Information has been added to confirm the details that must be provided to claim tax back on interest paid on a Payment Protection Insurance (PPI) claim. An updated R40 form, and information on what to do when claiming on behalf of someone else from 30 April 2024 has been added.
-
Added Welsh translation.
-
Information about Payment Protection Insurance (PPI) claims has been added. HMRC will accept digital signatures on the R40 print and post form.
-
We have updated the link to form R43.
-
Added translation
-
First published.