Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol

Neidio i gynnwys y canllaw

Blynyddoedd treth blaenorol

£12,570 oedd y Lwfans Personol safonol rhwng 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024.

Cyfradd dreth Incwm trethadwy sy’n uwch na’ch Lwfans Personol ar gyfer 2023 i 2024
Cyfradd sylfaenol 20% £0 i £50,270
Roedd pobl sydd â’r Lwfans Personol safonol wedi dechrau talu’r gyfradd hon ar incwm dros £12,570
Cyfradd uwch 40% £50,271 i £125,140
Roedd pobl sydd â’r Lwfans Personol safonol wedi dechrau talu’r gyfradd hon ar incwm dros £50,270
Cyfradd ychwanegol 45% Dros £125,141

Enghraifft

Roedd eich incwm trethadwy yn £35,000 a chawsoch y Lwfans Personol safonol o £12,570. Rydych chi wedi talu treth cyfradd sylfaenol sef 20% ar £22,430 (£35,000 tynnu £12,570).

Byddai eich Lwfans Personol wedi bod yn llai os oedd eich incwm dros £100,000, neu’n fwy os oeddech chi’n cael Lwfans Priodasol neu Lwfans Person Dall (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfraddau eraill a blynyddoedd treth blaenorol

Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyhoeddi tablau gyda’r cyfraddau a’r lwfansau llawn ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol a rhai blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).